xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CGWEITHREDIAETHAU, AELODAU, SWYDDOGION A PHWYLLGORAU AWDURDODAU LLEOL

Prif weithredwyrLL+C

54Prif weithredwyrLL+C

(1)Rhaid i brif gyngor benodi prif weithredwr.

(2)Rhaid i brif weithredwr prif gyngor—

(a)adolygu’n barhaus bob un o’r materion a bennir yn is-adran (3), a

(b)pan fo’r prif weithredwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny, gwneud adroddiad i’r cyngor yn nodi cynigion y prif weithredwr mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o’r materion hynny.

(3)Y materion yw—

(a)y modd y cydgysylltir sut y mae’r cyngor yn arfer ei wahanol swyddogaethau;

(b)trefniadau’r cyngor mewn perthynas ag—

(i)cynllunio ariannol,

(ii)rheoli asedau, a

(iii)rheoli risg;

(c)nifer a graddau’r staff sy’n ofynnol gan y cyngor er mwyn arfer ei swyddogaethau;

(d)trefniadaeth staff y cyngor;

(e)penodi staff y cyngor;

(f)y trefniadau ar gyfer rheoli staff y cyngor (gan gynnwys trefniadau ar gyfer hyfforddi a datblygu).

(4)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl llunio adroddiad at ddibenion is-adran (2)(b), rhaid i brif weithredwr prif gyngor drefnu bod yr adroddiad yn cael ei anfon at holl aelodau’r cyngor.

(5)Rhaid i brif gyngor ystyried adroddiad a wnaed o dan is-adran (2)(b) mewn cyfarfod a gynhelir yn ddim hwyrach na thri mis ar ôl i gopïau o’r adroddiad gael eu hanfon at aelodau’r cyngor am y tro cyntaf; ac nid yw adran 101 o Ddeddf 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r ddyletswydd a osodir gan yr is-adran hon.

(6)Rhaid i brif gyngor ddarparu i’w brif weithredwr y staff, yr adeiladau neu’r ystafelloedd a’r adnoddau eraill hynny sydd, ym marn y prif weithredwr, yn ddigonol i alluogi cyflawni dyletswyddau’r prif weithredwr o dan yr adran hon.

(7)Mae Atodlen 5 yn gwneud diwygiadau canlyniadol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I2A. 54 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(h)

55Disodli cyfeiriadau at “cyflog” yn adran 143A o Fesur 2011LL+C

(1)Mae adran 143A o Fesur 2011 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adrannau (1), (3), (3A), (3B), (5A) a (5B), yn lle “cyflog”, “chyflog” neu “gyflog”, yn ôl y digwydd, ym mhob lle y maent yn digwydd, rhodder “cydnabyddiaeth ariannol”, “chydnabyddiaeth ariannol” neu “gydnabyddiaeth ariannol”, yn ôl y digwydd.

(3)Yn is-adran (3), yn lle “gyflogau” rhodder “gydnabyddiaeth ariannol”.

(4)Yn is-adran (3A), yn lle “daladwy” rhodder “cael ei darparu”.

(5)Yn is-adran (5B), yn lle “talu” yn y ddau le y mae’n digwydd rhodder “darparu”;

(6)Yn is-adran (7)—

(a)hepgorer y diffiniad o “cyflog”, a

(b)yn y lle priodol mewnosoder—

(7)Yn y pennawd, yn lle “chyflogau” rhodder “chydnabyddiaeth ariannol”.

(8)Yn Neddf 1972, yn adran 112(2A) (penodi staff) yn lle “salaries” rhodder “remuneration”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 55 mewn grym ar 20.3.2021, gweler a. 175(3)(i)

56Ailystyried cydnabyddiaeth ariannol yn dilyn cyfarwyddyd gan Weinidogion CymruLL+C

Yn adran 143A o Fesur 2011 (swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol mewn cysylltiad â chydnabyddiaeth ariannol i brif weithredwyr), ar ôl is-adran (5B) mewnosoder—

(5C)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (5B) i awdurdod perthnasol cymwys—

(a)nid yw’r swyddogaeth o ailystyried y gydnabyddiaeth ariannol i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth yr awdurdod o dan drefniadau gweithrediaeth (o fewn ystyr adran 10 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000);

(b)mae maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o’r Ddeddf honno) i’w drin fel pe bai’n aelod o’r awdurdod at ddibenion y swyddogaeth honno, ac

(c)nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i’r swyddogaeth honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 56 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 175(7)

I5A. 56 mewn grym ar 5.5.2022 gan O.S. 2021/231, ergl. 6(i)