Pennod 3: Sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig pan fo cais wedi ei wneud
Adran 70 – Cais gan brif gynghorau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig
380.O dan yr adran hon caiff dau brif gyngor neu ragor wneud “cais cyd-bwyllgor corfforedig” i Weinidogion Cymru yn gofyn iddynt ystyried sefydlu, drwy reoliadau, o dan adran 72, gyd-bwyllgor corfforedig i arfer, mewn perthynas â phrif ardaloedd y cynghorau hynny, swyddogaeth neu swyddogaethau i’r cynghorau hynny neu’r swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76 o ran y swyddogaeth llesiant economaidd).
381.Efallai y bydd prif gynghorau yn dymuno gwneud cais cyd-bwyllgor corfforedig os ydynt, er enghraifft, yn ystyried y byddai manteision yn deillio o arfer swyddogaeth benodol ar y cyd drwy gorff corfforedig.
382.Mae is-adran (2) yn amlinellu’r camau y mae rhaid i Weinidogion Cymru eu cymryd os ydynt, ar ôl cael cais cyd-bwyllgor corfforedig, yn penderfynu peidio â gwneud rheoliadau sy’n sefydlu’r cyd-bwyllgor corfforedig.
Adran 71 – Ymgynghori cyn gwneud cais cyd-bwyllgor
383.Mae’r adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau ymgynghori â’r personau hynny a restrir yn yr adran cyn gwneud cais cyd-bwyllgor corfforedig. Diffinnir “pobl leol” yn adran 171(1).
Adran 72 – Rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt
384.Mae’r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu corff corfforedig, a elwir yn “cyd-bwyllgor corfforedig”, mewn ymateb i gais o dan adran 70. Bydd y cyd-bwyllgor corfforedig yn arfer y swyddogaeth neu’r swyddogaethau a bennir yn y rheoliadau mewn perthynas ag ardaloedd y cynghorau a wnaeth y cais (a elwir “y cynghorau perthnasol”).
385.Mae is-adran (3) yn cyfyngu ar y mathau o swyddogaethau y caniateir eu pennu yn y rheoliadau; ni chaiff y rhain ond bod yn swyddogaethau i’r cynghorau perthnasol neu’r swyddogaeth llesiant economaidd (gweler adran 76).
386.Mae is-adran (4) yn ei gwneud yn ofynnol, pan fo rheoliadau yn pennu’r math cyntaf o swyddogaeth, fod rhaid iddynt hefyd ddatgan a yw’r swyddogaeth i’w harfer gan y cyd-bwyllgor corfforedig yn hytrach na chan y cynghorau perthnasol, neu a yw hi i’w harfer yn gydredol gan y cyd-bwyllgor corfforedig a’r cynghorau perthnasol. Os yw’r swyddogaeth i’w harfer yn gydredol, mae’n golygu y caiff y cyd-bwyllgor corfforedig a phrif gyngor ill dau arfer y swyddogaeth ar wahân mewn perthynas ag ardal y prif gyngor.
387.Un enghraifft o le y byddai is-adran (5) yn berthnasol yw pan fo gan brif gyngor swyddogaeth y caniateir gwneud amrywiaeth o bethau oddi tani, ond bod cyd-bwyllgor corfforedig i gael y pŵer i wneud pethau penodol yn unig o blith y pethau hynny. Caiff y rheoliadau bennu swyddogaeth drwy bennu’r pethau penodol y caiff y cyd-bwyllgor corfforedig eu gwneud.
388.Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau o dan yr adran hon onid yw’r amodau yn adran 73 wedi eu bodloni.
389.Yn y Rhan hon, cyfeirir at reoliadau a wneir o dan yr adran hon (yn ogystal â rheoliadau a wneir o dan adran 74) fel “rheoliadau cyd-bwyllgor”.
Adran 73 – Yr amodau sydd i’w bodloni cyn gwneud rheoliadau cyd-bwyllgor y gwnaed cais amdanynt
390.Mae’r adran hon yn nodi’r amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y gall Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau i sefydlu cyd-bwyllgor corfforedig o dan adran 72.
