Rhan 1 o Atodlen 4 – Hysbysiad am gyfarfodydd awdurdodau lleol a mynediad at ddogfennau
262.Mae Rhan 5A o Ddeddf 1972 (adrannau 100A i 100K) yn gwneud darpariaeth ynghylch mynediad at gyfarfodydd prif gynghorau (a chyrff llywodraeth leol penodol eraill), a mynediad at ddogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny a’u cyhoeddi.
263.Mae paragraff 1 yn diwygio adran 100A o Ddeddf 1972 (yr is-adran (6)(aa) newydd), fel bod rhaid i hysbysiad cyhoeddus am gyfarfodydd prif gynghorau yng Nghymru (fel y’u diffinnir yn adran 100J) gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddo gynnwys gwybodaeth sy’n darparu manylion am y trefniadau ar gyfer cyfarfod (gan gynnwys a yw’n agored i’r cyhoedd, a yw’n cael ei gynnal o bell a sut i gael mynediad at gyfarfod a gynhelir o bell). Nid yw’n ofynnol mwyach i’r hysbysiad gael ei osod yn swyddfeydd y prif gyngor.
264.Mae paragraff 2 yn diwygio adran 100K(3) o Ddeddf 1972 ac mae’n ganlyniadol ar yr is-adran (6)(aa) newydd yn adran 100A; mae’r pŵer presennol yn adran 100K(3), sy’n galluogi Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, i roi cyfeiriad at nifer uwch o ddiwrnodau yn lle’r cyfeiriad at dri diwrnod yn adran 100A(6)(a) (sef is-adran na fydd yn gymwys yng Nghymru mwyach), yn gymwys i’r adran 100A(6)(aa) newydd.
265.Mae Atodlen 12 i Ddeddf 1972 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cyfarfodydd a thrafodion prif gynghorau a chyrff llywodraeth leol eraill.
266.Mae paragraff 3 yn diwygio paragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, er mwyn gwneud ei ddarpariaethau ynghylch cyhoeddi hysbysiad cyhoeddus am gyfarfodydd prif gynghorau yn gyson â’r gofynion a nodir yn yr adran 100A ddiwygiedig o Ddeddf 1972. Mae’r is-adran (2B) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means”.
267.Mae paragraff 4 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972, fel bod rhaid i hysbysiadau cyhoeddus am gyfarfodydd cynghorau cymuned gynnwys yr wybodaeth a nodir yn yr is-baragraff (2ZA) newydd (gan gynnwys a yw’r cyfarfod yn agored i’r cyhoedd, a yw’n cael ei gynnal o bell a sut i gael mynediad at gyfarfod a gynhelir o bell). Mae’r is-baragraff (2ZB) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means”. Ni wneir unrhyw newidiadau i’r gofynion presennol bod rhaid i hysbysiadau am gyfarfodydd cynghorau cymuned gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt gael eu gosod mewn man amlwg yn y gymuned.
268.Mae Deddf Cyrff Cyhoeddus (Mynediad at Gyfarfodydd) 1960 yn gwneud darpariaeth ynghylch rhoi mynediad i’r cyhoedd a’r wasg at gyfarfodydd awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, a hefyd ynghylch dogfennau sy’n ymwneud â’r cyfarfodydd hynny.
269.Mae paragraff 5 yn diwygio adran 1 o Ddeddf 1960 fel bod rhaid i hysbysiadau am gyfarfodydd y cyrff a restrir yn yr is-adran (4ZA) newydd gydymffurfio â’r gofynion a nodir yn yr is-adran (4ZB) newydd.
270.Mae’r gofynion yn debyg i’r rhai a fewnosodir yn adran 100A o Ddeddf 1972 (sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi hysbysiadau ar ffurf electronig a rhoi gwybodaeth ynghylch sut i gael mynediad at gyfarfodydd a gynhelir o bell). Mae’r is-adran (4ZC) newydd yn diffinio “a meeting held through remote means” ac mae hefyd yn darparu bod gofyniad i gyhoeddi hysbysiad ar ffurf electronig yn ofyniad i gyhoeddi ar wefan y corff hwnnw os oes gan y corff hwnnw wefan.
271.Mae paragraff 6 yn diwygio adran 100B o Ddeddf 1972 (mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedig), fel ei bod yn gymwys i brif gynghorau yn Lloegr yn unig.
272.Mae paragraff 7 yn mewnosod adran 100BA newydd (mynediad at agenda ac at adroddiadau cysylltiedig: prif gynghorau yng Nghymru) yn Rhan 5A o Ddeddf 1972. Mae’r adran newydd yn darparu bod rhaid i gopïau o’r agenda a’r adroddiadau cysylltiedig ar gyfer cyfarfod prif gyngor yng Nghymru gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig. Mae’r cyfyngiadau sy’n ymwneud â chyhoeddi gwybodaeth esempt benodol (fel y’i nodir yn Atodlen 12A i Ddeddf 1972) yn parhau i fod yn gymwys (gweler adrannau 100BA(2) a (7)).
273.Pan na fo cyfarfod yn cael ei gynnal o bell yn unig a bod aelodau o’r cyhoedd yn bresennol, rhaid darparu nifer rhesymol o gopïau o’r agenda a’r adroddiadau at eu defnydd. Mae is-adran (9) yn darparu ar gyfer cyflenwi (ar gais ac yn amodol ar daliad) ddogfennau penodol sy’n ymwneud â’r cyfarfod i unrhyw bapur newydd.
274.Mae paragraff 8 yn diwygio adran 100C o Ddeddf 1972 (edrych ar gofnodion a dogfennau eraill ar ôl cyfarfodydd) fel bod is-adran (1) yn gymwys i brif gynghorau yn Lloegr yn unig a’r is-adrannau (1A) i (1C) newydd yn gymwys i brif gynghorau yng Nghymru.
275.Mae is-adran (1A) yn darparu bod rhaid i’r dogfennau a restrir yn is-adran (1B) gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt barhau i fod ar gael ar ffurf electronig am chwe blynedd o ddyddiad y cyfarfod, mae is-adran (1C) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor, ar ôl cyfarfod, gyhoeddi nodyn ar ffurf electronig yn nodi’r wybodaeth a restrir yn is-adran (1C).
276.Mae paragraff 9 yn diwygio adran 100D o Ddeddf 1972 (edrych ar bapurau cefndirol) fel bod rhaid i gopi o unrhyw ddogfen a gynhwysir ar y rhestr o bapurau cefndirol ar gyfer adroddiad ar gyfer cyfarfod prif gyngor yng Nghymru gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig.
277.Mae is-adran (1)(c) newydd yn darparu, os yw’r swyddog priodol yn ystyried nad yw’n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen gefndirol ar ffurf electronig, er enghraifft dogfen gefndirol faith iawn, bod rhaid i o leiaf un copi o’r ddogfen fod ar gael i edrych arno yn swyddfeydd y cyngor (ystyr “proper officer” yw swyddog priodol a benodir gan y cyngor at y diben hwn: gweler adran 270(3) o Ddeddf 1972).
278.Mae’r is-adran (2A) newydd yn darparu bod rhaid i gopïau o’r dogfennau a gynhwysir ar y rhestr o bapurau cefndirol (boed hwy’n cael eu cyhoeddi ar ffurf electronig neu ar gael i edrych arnynt) fod ar gael am chwe blynedd o ddyddiad y cyfarfod; caiff y cyfnod cadw ar gyfer y papurau cefndirol hynny ei estyn o 4 i 6 blynedd er mwyn bod yn gyson â’r gofynion cadw ar gyfer dogfennau eraill y cyfarfod.
279.Mae paragraff 10 yn diwygio adran 100H o Ddeddf 1972 (darpariaeth atodol ynghylch mynediad at gyfarfodydd a dogfennau); os yw dogfen ar gael i edrych arni o dan Ran 5A o Ddeddf 1972, caiff person wneud copi o ran o’r ddogfen neu’r ddogfen gyfan, neu ofyn i gopi o ran o’r ddogfen neu’r ddogfen gyfan gael ei ddarparu, a chaniateir codi ffi resymol ar y person hwnnw.
280.Mae’r is-adran (3A) newydd yn darparu na chaiff prif gyngor, wrth gyhoeddi dogfennau, wneud unrhyw beth sy’n torri hawlfraint (ac eithrio pan fo’r cyngor yn berchen ar yr hawlfraint).
281.Mae’r is-adran (5)(aa) newydd yn darparu, pan fo unrhyw ddogfen y gellir cael mynediad ati yn cael ei chyhoeddi ar ffurf electronig, y bydd cyhoeddi unrhyw fater difenwol yn freintiedig, oni phrofir bod y cyhoeddiad wedi ei wneud yn faleisus.
282.Mae’r is-adran (8) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor yng Nghymru roi cyfleusterau yn eu lle i alluogi aelodau o’r cyhoedd, na fyddent yn gallu gwneud hynny fel arall, i gael mynediad at ddogfennau y mae’n ofynnol iddynt gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig. Gallai’r mathau o gyfleusterau y gellid eu rhoi yn eu lle gynnwys cael mynediad at gyfrifiaduron, trefniadau i ddarparu copïau o ddogfen, mynediad at swyddfeydd er mwyn edrych ar ddogfennau etc.
283.Mae’r is-adran (9) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru ynghylch arfer swyddogaethau sy’n ymwneud â chyhoeddi dogfennau, eu darparu ac edrych arnynt o dan Ran 5A o Ddeddf 1972.
284.Mae adran 228 o Ddeddf 1972 yn cynnwys darpariaeth ynghylch edrych ar ddogfennau penodol awdurdodau lleol. Mae paragraff 11 yn diwygio adran 228(1) (cofnodion cyfarfodydd cyngor cymuned) er mwyn cael gwared ar y gofyniad i gofnodion cynghorau cymuned yng Nghymru fod ar gael i edrych arnynt. Mae eisoes yn ofynnol, o dan adran 55(1)(c) o Ddeddf 2013, cyhoeddi ar ffurf electronig gofnodion cyfarfodydd ac (i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol) unrhyw ddogfennau y cyfeirir atynt yn y cofnodion. Nid yw’r gofynion o dan Ddeddf 2013 wedi newid.
285.Mae paragraff 12 yn mewnosod paragraff 26ZA newydd yn Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi ar ffurf electronig, ar ôl cyfarfod, nodyn sy’n rhoi’r wybodaeth a restrir yn is-baragraff (1) a chan gydymffurfio ag is-baragraff (2).
286.Mae paragraff 13 yn diwygio adran 100E o Ddeddf 1972 (cymhwyso i bwyllgorau ac is-bwyllgorau) er mwyn darparu ar gyfer sut y mae’r dyletswyddau newydd a gynhwysir yn y diwygiadau i adrannau 100A i 100D a gyflwynir ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru i gael eu cyflawni mewn perthynas â phwyllgorau ac is-bwyllgorau prif gynghorau. Yn achos cyd-bwyllgor, rhaid i’r gofynion gael eu cyflawni gan bob cyngor sy’n cyfansoddi’r cyd-bwyllgor.
287.Mae paragraff 14 yn diwygio adran 100J o Ddeddf 1972 er mwyn egluro bod cyfeiriadau at “principal council in Wales” yn Rhan 5A o Ddeddf 1972 yn cynnwys awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru, awdurdod tân ac achub ar gyfer ardal yng Nghymru a chyd-fwrdd neu gyd-bwyllgor i brif gynghorau yng Nghymru.
288.Mae paragraff 15 yn diwygio adran 100K o Ddeddf 1972 er mwyn diffinio ystyr “meeting held through remote means” yn Rhan 5A o Ddeddf 1972.
289.Mae adran 270 o Ddeddf 1972 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol ynghylch diffinio termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn Neddf 1972. Mae paragraff 16 yn diwygio adran 270 er mwyn darparu bod gofyniad i gyhoeddi hysbysiad ar ffurf electronig, a osodir ar awdurdod lleol yng Nghymru gan Ddeddf 1972 neu ar unrhyw gorff neu awdurdod arall yng Nghymru gan Ran 5A o Ddeddf 1972, yn ofyniad i’w gyhoeddi ar wefan yr awdurdod, os oes un ganddo.
290.O dan adran 232 o Ddeddf 1972, rhaid i awdurdodau lleol roi hysbysiadau cyhoeddus y mae’n ofynnol eu rhoi, drwy eu gosod mewn man amlwg yn eu hardal ac mewn unrhyw fodd arall sy’n ddymunol er mwyn rhoi cyhoeddusrwydd. Mae hyn yn gymwys oni bai bod darpariaeth ddatganedig i’r gwrthwyneb.
291.Mae paragraff 17 yn diwygio adran 232 fel bod rhaid i hysbysiad cyhoeddus gael ei gyhoeddi ar ffurf electronig yn ogystal. Mae’r is-adran (1ZA) bresennol, a oedd yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi’r hysbysiadau hynny ar ffurf electronig, wedi ei hepgor gan fod cynghorau cymuned wedi eu cynnwys yn yr is-adran (1)(c) newydd.
292.Mae paragraff 17(4) yn mewnosod darpariaeth newydd yn adran 232 o Ddeddf 1972, gan alluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau er mwyn gwneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch y modd y rhoddir hysbysiad cyhoeddus y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei roi; caiff y rheoliadau hynny hefyd wneud darpariaeth ynghylch y modd y rhoddir hysbysiad cyhoeddus gan awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru ac awdurdodau tân ac achub yng Nghymru. Mae rheoliadau a wneir o dan y pwerau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol yn y Senedd.
293.Caiff adran 232 o Ddeddf 1972 ei chymhwyso i awdurdodau Parciau Cenedlaethol gan baragraff 17(2)(d) o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae paragraff 18 yn darparu nad yw’r is-adran (1)(c) newydd yn adran 232 o Ddeddf 1972 (gweler paragraff 17) yn gymwys i awdurdodau Parciau Cenedlaethol. Gellid cyflawni gofyniad ar awdurdodau Parciau Cenedlaethol yng Nghymru i gyhoeddi hysbysiadau cyhoeddus ar ffurf electronig drwy arfer y pwerau i wneud rheoliadau o dan yr is-adrannau (3) a (4) newydd o adran 232 o Ddeddf 1972 (gweler paragraff 17).
294.Mae paragraff 19 yn diwygio paragraffau 4 a 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 fel bod rhaid i wysion i fynychu cyfarfodydd prif gynghorau a chynghorau cymuned gael eu hanfon at aelodau ar ffurf electronig a bod rhaid iddynt gael eu dilysu gan y swyddog priodol perthnasol mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol(ystyr “proper officer” yw swyddog priodol a benodir gan y cyngor at y diben hwn: gweler adran 270(3) o Ddeddf 1972). Os yw aelod o brif gyngor neu o gyngor cymuned yn gwneud cais, fodd bynnag, rhaid i’r wŷs, yn hytrach, gael ei hanfon i gyfeiriad post a bennir gan yr aelod neu gael ei gadael yno.
295.Mae paragraff 20 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn galluogi cyngor cymuned i gyfarfod yn unrhyw le (o fewn ardal y cyngor neu’r tu allan iddi) y mae’r cyngor yn ei gyfarwyddo. O ganlyniad, caiff y cyfyngiadau ar gynghorau cymuned yn cynnal cyfarfodydd mewn mangre drwyddedig (a gynhwyswyd yn flaenorol yn is-baragraff 26(1) o Atodlen 12 i Ddeddf 1972) eu dileu.
296.Mae paragraff 21 yn diwygio paragraff 26 o Atodlen 12 i Ddeddf 1972 er mwyn darparu bod rhaid i hysbysiad am gyfarfodydd pwyllgorau ac is-bwyllgorau cynghorau cymuned gael ei gyhoeddi yn y modd a ddisgrifir yn yr is-baragraffau (2D) a (2E) newydd.
297.Cymhwysir adrannau 100A i 100D a 100H o Ddeddf 1972 i gynghorau iechyd cymuned a phwyllgorau iechyd cymuned gan adran 1 o Ddeddf Cynghorau Iechyd Cymuned (Mynediad at Wybodaeth) 1988. Caiff y Ddeddf honno ei diddymu gan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020. Mae paragraff 22 yn gwneud darpariaeth arbed fel bod adrannau 100A i 100D a 100H o Ddeddf 1972 yn parhau i fod yn gymwys i gynghorau iechyd cymuned a phwyllgorau iechyd cymuned (hyd nes y bo’r diddymiad yn cael effaith) fel pe na bai’r diwygiadau a wneir i’r adrannau hynny gan baragraffau 1, 2 a 6 i 10 o’r Atodlen 4 hon wedi eu gwneud.
