6.Mae Rhan 1 o’r Ddeddf (gan gynnwys Atodlenni 1 a 2, ond noder bod Atodlen 1 hefyd yn ymwneud â Rhan 7 o’r Ddeddf) yn cynnwys darpariaethau ar gyfer estyn yr etholfraint mewn etholiadau llywodraeth leol, gan ddarparu ar gyfer dwy system bleidleisio ar gyfer etholiadau i brif gynghorau; newidiadau i gylch etholiadol etholiadau llywodraeth leol; dull amgen o gofrestru etholwyr llywodraeth leol; cymhwysiad ar gyfer aelodaeth o awdurdod lleol ac anghymhwysiad ar gyfer hynny; gwariant swyddogion canlyniadau; ac ar gyfer hygyrchedd dogfennau mewn etholiad.
7.Mae Rhan 2 (gan gynnwys Atodlen 3) yn cynnwys darpariaethau sy’n sefydlu pŵer cymhwysedd cyffredinol. Mae Pennod 1 o’r Rhan hon yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i brif gynghorau a ”cynghorau cymuned cymwys”, gan nodi terfynau’r pŵer a’r cyfyngiadau ar godi ffi a’r defnydd o’r pŵer at ddibenion masnachol.
8.Nodir yr amodau y mae rhaid i gynghorau cymuned eu bodloni, ynghyd â’r weithdrefn y mae rhaid iddynt ei dilyn, er mwyn dod yn “cyngor cymuned cymwys” ym Mhennod 2 o’r Rhan hon.
9.Mae Pennod 2 o’r Rhan hon yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau annog pobl leol i gyfranogi o fewn llywodraeth leol; y gofynion ar gyfer cynlluniau deisebau; a chyhoeddi cyfeiriadau swyddogol aelodau o brif gynghorau.
10.Mae Pennod 3 yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau gyhoeddi eu cyfansoddiad ac arweiniad i’r cyfansoddiad.
11.Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch gwella mynediad y cyhoedd at gyfarfodydd awdurdodau lleol; aelodau yn mynychu cyfarfodydd; cyfranogiad y cyhoedd yng nghyfarfodydd cynghorau cymuned; ac, yn Atodlen 4, ddarpariaeth ar gyfer hysbysiadau ynglŷn â chyfarfodydd awdurdodau lleol a lleoliad cyfarfodydd cynghorau cymuned.
12.Mae Pennod 5 yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau cymuned gyhoeddi adroddiad blynyddol.
13.Mae’r darpariaethau yn Rhan 4 o’r Ddeddf (gan gynnwys Atodlenni 5 i 7) yn ei gwneud yn ofynnol i brif gyngor benodi prif weithredwr, ac yn gwneud darpariaeth ynghylch ei rôl. Maent yn galluogi aelodau o brif gynghorau i gael eu penodi’n gynorthwywyr i’r weithrediaeth, yn hwyluso rhannu swydd gan aelodau’r weithrediaeth ac yn darparu ar gyfer gwneud rheoliadau er mwyn hwyluso rhannu swyddi penodol o fewn prif gynghorau.
14.Mae Rhan 4 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch hawlogaeth aelodau o brif gynghorau i absenoldeb teuluol; yn rhoi dyletswydd ar arweinyddion y grwpiau gwleidyddol i gymryd camau rhesymol i hybu a chynnal safonau uchel o ran ymddygiad aelodau’r grŵp; ac yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi ac ystyried adroddiadau blynyddol gan bwyllgorau safonau.
15.Mae Atodlen 8 yn gwneud darpariaeth ynghylch ymchwiliadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i fethiannau honedig i gydymffurfio â chod ymddygiad llywodraeth leol ar gyfer aelodau.
16.Gwneir darpariaeth yn Rhan 4 hefyd ynghylch pwyllgorau trosolwg a chraffu a hyfforddi aelodau a staff cynghorau cymuned.
17.Mae’r darpariaethau yn Rhan 5 o’r Ddeddf (gan gynnwys Atodlen 9) yn darparu fframwaith ar gyfer cydweithio rhanbarthol gan brif gynghorau. Mae Pennod 2 o’r Rhan hon yn ei gwneud yn ofynnol i brif gynghorau roi sylw i ganllawiau ynglŷn â chydweithio wrth arfer eu swyddogaethau.
18.Mae Penodau 3 a 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu, drwy reoliadau, gyd-bwyllgorau corfforedig pan fo prif gynghorau wedi gwneud cais am hynny neu pan na fo cais wedi ei wneud.
19.Mae Pennod 5 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau cyd-bwyllgor gan gynnwys darparu ar gyfer diwygio a dirymu rheoliadau cyd-bwyllgor a darparu’r pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau atodol etc. mewn perthynas â chyd-bwyllgorau corfforedig.
20.Mae Rhan 6 o’r Ddeddf yn nodi’r trefniadau ar gyfer adolygu perfformiad prif gynghorau. Mae Pennod 1 yn rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i adolygu eu perfformiad ac adrodd arno. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer asesiadau perfformiad gan baneli; arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru; a chefnogaeth ac ymyrraeth gan Weinidogion Cymru.
21.Mae Pennod 2, gan gynnwys Atodlen 10, yn gwneud darpariaeth ar gyfer aelodaeth pwyllgorau llywodraethu ac archwilio, a’u trafodion.
22.Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer cydgysylltu rhwng rheoleiddwyr.
23.Mae Rhan 7 o’r Ddeddf (gan gynnwys Atodlenni 1 (a grybwyllir uchod mewn perthynas â Rhan 1), 11 a 12) yn cynnwys darpariaethau ar gyfer uno ac ailstrwythuro prif gynghorau. Mae Pennod 1 yn gwneud darpariaeth ar gyfer uno prif ardaloedd yn wirfoddol, gan gynnwys ceisiadau ar gyfer uno’n wirfoddol, gofynion ymgynghori, pwerau i Weinidogion Cymru roi effaith i uno, trefniadau ar gyfer cynghorau a gweithrediaethau cysgodol, y system bleidleisio ac etholiadau a’r ddyletswydd ar gynghorau sy’n uno i gydweithredu â’i gilydd.
24.Mae Pennod 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ailstrwythuro prif ardaloedd, gan gynnwys yr amodau sydd i’w bodloni, ceisiadau diddymu, pwerau i Weinidogion Cymru roi effaith i gynigion ailstrwythuro a’r ddyletswydd ar gynghorau sy’n cael eu hailstrwythuro i gydweithredu â’i gilydd.
25.Mae Pennod 3, gan gynnwys Atodlenni 11 a 12, yn gwneud darpariaethau ar gyfer pwyllgorau pontio, cyfyngiadau ar drafodiadau a recriwtio, adolygiadau o drefniadau etholiadol, trefniadau gweithrediaeth a darparu gwybodaeth gan gynghorau.
26.Mae Pennod 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau cydnabyddiaeth ariannol cynghorau cysgodol a phrif gynghorau newydd a sefydlir o dan Ran 7, gan gynnwys darpariaeth ynghylch swyddogaethau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, a datganiadau ar bolisi tâl.
27.Gwneir darpariaeth yn Rhan 8 ynglŷn â chyllid llywodraeth leol, gan gynnwys mesurau i fynd i’r afael ag osgoi ardrethi annomestig, dileu’r pŵer i ddarparu ar gyfer carcharu dyledwyr y dreth gyngor a darparu’r pŵer i wneud rheoliadau ynghylch atebolrwydd ar y cyd ac yn unigol i dalu’r dreth gyngor.
28.Gwneir darpariaeth yn Rhan 9 ynglŷn â rhannu gwybodaeth gan reoleiddwyr; penaethiaid gwasanaethau democrataidd; diddymu pleidleisiau cymunedol (Atodlen 13); penodi’r prif weithredwr a phwerau Gweinidogion Cymru i roi cyfarwyddydau i’r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol.
29.Mae Rhan 9 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch uno a daduno byrddau gwasanaethau cyhoeddus (Atodlen 14); pryd y mae rhaid cynnal ymchwiliadau cyhoeddus mewn perthynas ag awdurdodau tân ac achub cyfunol; perfformiad awdurdodau tân ac achub a’u llywodraethu, gan gynnwys o ran cymhwyso Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“Mesur 2009”) mewn perthynas â’r awdurdodau hynny; datgymhwyso’r Mesur hwnnw mewn perthynas ag awdurdodau Parciau Cenedlaethol; a diddymiad terfynol y Mesur hwnnw yn sgil ei ddatgymhwyso mewn perthynas â phrif gynghorau (gweler Rhan 6), awdurdodau tân ac achub ac awdurdodau Parciau Cenedlaethol.
30.Mae Rhan 10 yn cynnwys darpariaethau cyffredinol o ran dehongli; cyfarwyddydau a roddir, a rheoliadau a gorchmynion a wneir, o dan y Ddeddf; pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc. mewn rheoliadau; pa bryd y daw’r Ddeddf i rym; ac enw byr y Ddeddf.