Cymhwyso i’r Goron

9Pŵer yr Uchel Lys i ddatgan bod gweithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlon

Caiff yr Uchel Lys ddatgan bod unrhyw weithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlon pe byddai’r Goron yn atebol amdani o ran cyfraith trosedd o dan y Ddeddf hon oni bai am adran 28(3) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (nid yw Deddfau’r Cynulliad yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd).