Troseddau gan gyrff corfforedig etc.

7Achosion: troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig

(1)

Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)

Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)

Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)

Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.