Troseddau gan gyrff corfforedig etc.

6Troseddau gan gyrff corfforedig etc.

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni gan—

(a)

corff corfforedig;

(b)

partneriaeth;

(c)

cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)

Mae person a grybwyllir yn is-adran (3) yn cyflawni’r drosedd hefyd os profir bod y drosedd—

(a)

wedi ei chyflawni gan y person hwnnw, neu gyda’i gydsyniad neu ymoddefiad, neu

(b)

i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.

(3)

Y personau yw—

(a)

mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforedig;

(b)

mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)

mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog i’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)

Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforedig.

(5)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)

partneriaeth o fewn Deddf Partneriaethau 1890 (p. 39), neu

(b)

partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24).