Cyffredinol
11Rheoliadau
(1)
Mae Rheoliadau o dan y Ddeddf hon i’w gwneud gan Weinidogion Cymru.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)
yn arferadwy drwy offeryn statudol, a
(b)
yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(3)
Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.