Cymhwyso i’r Goron
10Tir y Goron: pwerau mynediad
(1)
Ni chaniateir arfer y pwerau a roddir gan yr Atodlen (pwerau mynediad etc.) mewn perthynas â thir y Goron ond gyda chydsyniad yr awdurdod priodol.
(2)
Yn yr adran hon—
(a)
ystyr “tir y Goron” yw tir y mae buddiant ynddo—
(i)
yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron neu yn hawl Ei hystad breifat,
(ii)
yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn,
(iii)
yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, neu
(iv)
yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth;
(b)
ystyr “awdurdod priodol”—
(i)
os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl y Goron, yw Comisiynwyr Ystad y Goron neu un o adrannau eraill y llywodraeth sy’n rheoli’r tir o dan sylw;
(ii)
os yw’r tir yn perthyn i Ei Mawrhydi yn hawl Dugiaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugiaeth;
(iii)
os yw’r tir yn perthyn i Ddugiaeth Cernyw, yw’r person hwnnw y mae Dug Cernyw, neu’r person sy’n meddu ar Ddugiaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi;
(iv)
os yw’r tir yn perthyn i un o adrannau’r llywodraeth neu’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth ar gyfer Ei Mawrhydi at ddibenion un o adrannau’r llywodraeth, yw’r adran honno.
(3)
Os oes unrhyw gwestiwn yn codi o dan yr adran hon ynghylch pa awdurdod yw’r awdurdod priodol mewn perthynas ag unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i gael ei gyfeirio at y Trysorlys, a’r Trysorlys biau’r penderfyniad terfynol.
(4)
Yn yr adran hon, mae’r cyfeiriad at ystadau preifat Ei Mawrhydi i’w ddehongli yn unol ag adran 1 o Ddeddf Ystadau Preifat y Goron 1862 (p. 37).