Gwaharddiad ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol
1Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol
(1)
Mae person sy’n weithredwr syrcas deithiol yn cyflawni trosedd os yw’r person yn defnyddio anifail gwyllt yn y syrcas deithiol yng Nghymru, neu’n peri neu’n caniatáu i berson arall wneud hynny.
(2)
At ddiben yr adran hon, mae anifail gwyllt yn cael ei ddefnyddio os yw’r anifail—
(a)
yn perfformio, neu
(b)
yn cael ei arddangos.
(3)
Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.