YR ATODLENPwerau gorfodi

Atebolrwydd arolygwyr

13

(1)

Nid yw arolygydd yn atebol mewn unrhyw achosion sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r arolygydd o dan yr Atodlen hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

(2)

Mae is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson y mae arolygydd yn mynd ag ef i fangre o dan baragraff 8(a) fel y mae’n gymwys i arolygydd os yw’r person o dan oruchwyliaeth yr arolygydd.