Cyflwyniad

1.Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 15 Gorffennaf 2020 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 7 Medi 2020. Fe’u lluniwyd gan Adran Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru

2.Mae Rhan 2 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd Cymru. Roedd y newid enw yn cael effaith ar 6 Mai 2020, cyn pasio Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru), ond ar ôl iddi gael ei chyflwyno.

3.Gan fod y Ddeddf wedi ei chyflwyno cyn i’r enw newid, mae’r Ddeddf ei hun (ar wahân i’r geiriau deddfu) yn cyfeirio at “Cynulliad Cenedlaethol Cymru”. Mae’r cyfeiriadau hynny bellach yn cael effaith fel cyfeiriadau at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r geiriau deddfu yn cyfeirio at “Senedd Cymru” gan mai’r Senedd a basiodd y Ddeddf.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 – Trosedd i ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol

4.Mae adran 1 yn ei gwneud yn drosedd i weithredwr syrcas deithiol ddefnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol, neu beri neu ganiatáu i berson arall wneud hynny. Mae’r drosedd yn drosedd ddiannod ac felly gellir ei rhoi ar brawf yn Llys yr Ynadon. Os ceir gweithredwr yn euog o’r drosedd, caiff y Llys osod dirwy ddiderfyn.

5.Mae anifail gwyllt yn cael ei “ddefnyddio” os yw’r anifail yn perfformio neu’n cael ei arddangos.

6.Mae anifail gwyllt yn “perfformio” os yw, er enghraifft, yn gwneud triciau neu symudiadau ar gyfer cynulleidfa.

7.Mae anifail gwyllt yn cael ei “arddangos” os yw’n cael ei ddangos i’r cyhoedd, hyd yn oed os yw’n cael ei ddangos y tu allan i brif arena’r syrcas. Er enghraifft, byddai gosod yr anifail gwyllt yn fwriadol fel y gall y cyhoedd ei weld mewn caeau cyfagos i’r syrcas yn cyfrif fel “arddangos” yr anifail. Byddai “arddangos” hefyd yn cynnwys dangos yr anifail mewn ffordd y bwriedir iddi hyrwyddo’r syrcas deithiol, er enghraifft, wrth ymyl poster y syrcas. Ni fydd gweithredwyr syrcasau teithiol yn cyflawni trosedd, fodd bynnag, os bydd rhywun yn anfwriadol yn gweld anifail gwyllt sydd mewn lloc yn yr awyr agored (ar yr amod nad yw’r anifail gwyllt wedi ei roi yno’n fwriadol i gael ei weld).

8.Bydd trosedd wedi ei chyflawni pa un a oes angen talu i weld yr anifail gwyllt yn perfformio neu’n cael ei ddangos ai peidio, neu pa un a oes tâl yn cael ei dderbyn ar gyfer hynny ai peidio.

9.Nid oes rhaid i anifail gwyllt fod wedi ei gludo gyda’r syrcas deithiol na bod yn eiddo i’r syrcas deithiol er mwyn i drosedd fod wedi ei chyflawni.

10.Er gwaethaf adran 1, caiff syrcasau teithiol gadw anifeiliaid gwyllt (ar yr amod nad ydynt yn eu “defnyddio”). Gweler adran 8 o’r Nodiadau Esboniadol hyn i weld newidiadau i Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 a Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 ynghylch y trwyddedau y gall fod yn ofynnol i syrcasau eu cael er mwyn cadw anifeiliaid gwyllt.

11.Nid yw’r Ddeddf yn effeithio ar ddefnyddio anifeiliaid wedi eu domestigeiddio mewn syrcasau teithiol, nac ychwaith yn atal anifeiliaid gwyllt rhag cael eu defnyddio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau heblaw syrcasau teithiol.

Adran 2 – Ystyr “gweithredwr”

12.Gweithredwr syrcas deithiol yn unig sy’n gallu cyflawni’r drosedd yn adran 1.

13.Y “gweithredwr” yw perchennog y syrcas deithiol neu berson arall nad yw’n berchen ar y syrcas deithiol ond sy’n bennaf gyfrifol am ei gweithrediad. Os nad yw’r naill na’r llall yn bresennol yn y Deyrnas Unedig, y person yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am weithrediad y syrcas deithiol yw’r gweithredwr.

14.Gweler hefyd adran 6 o’r Nodiadau Esboniadol hyn am wybodaeth am unigolion a all fod yn atebol pan fo’r drosedd yn cael ei chyflawni gan gwmni etc.

Adran 3 – Ystyr “anifail gwyllt”

15.Mae “anifail gwyllt” yn anifail o fath nad yw wedi ei ddomestigeiddio yn gyffredin yn yr Ynysoedd Prydeinig. Mae anifeiliaid yr ystyrir eu bod wedi eu domestigeiddio yn gyffredin mewn man ac eithrio yn yr Ynysoedd Prydeinig yn cael eu hystyried yn “anifeiliaid gwyllt” o dan y Ddeddf os nad ydynt wedi eu domestigeiddio yn gyffredin yn yr Ynysoedd Prydeinig.

16.Mae’n bosibl y bydd ansicrwydd neu wahaniaeth barn ynghylch a yw anifail yn wyllt ai peidio. Mae adran 3(2) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu mathau o anifeiliaid sydd i’w hystyried yn wyllt, neu nad ydynt i’w hystyried yn wyllt, at ddibenion y Ddeddf. Nid yw’r pŵer hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru restru mewn rheoliadau bob anifail y maent yn ystyried ei fod yn “anifail gwyllt”, neu nad ydynt yn ystyried ei fod yn “anifail gwyllt”, at ddibenion y Ddeddf.

17.Mae i “anifail” yr ystyr a roddir i “animal” yn Neddf Lles Anifeiliaid 2006 (gweler adran 1), ac mae’n golygu anifeiliaid asgwrn cefn. Ond mae adran 1(3) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn caniatáu i Weinidogion Cymru newid y diffiniad hwnnw drwy reoliadau (a allai gynnwys estyn y diffiniad o “anifail” i gynnwys anifeiliaid di-asgwrn-cefn).

Adran 4 –­ Ystyr “syrcas deithiol”

18.Ystyr “syrcas deithiol” yw syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant. Ystyrir bod syrcas yn “syrcas deithiol” er bod cyfnodau pan nad yw’n teithio; nid yw syrcas deithiol yn peidio â bod yn syrcas deithiol yn ystod seibiant o’r teithio neu yn ystod y tymor pan fydd ar gau.

19.Nid yw “syrcas deithiol”, fodd bynnag, yn cynnwys syrcas sydd fel arfer yn sefydlog ac sy’n teithio er mwyn adleoli i leoliad sefydlog arall.

20.Mae’n bosibl y bydd ansicrwydd neu wahaniaeth barn ynghylch a yw math o ymgymeriad, perfformiad neu adloniant yn syrcas deithiol ai peidio. Mae adran 4(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i bennu math o ymgymeriad, perfformiad, adloniant neu rywbeth tebyg sydd i’w ystyried yn syrcas deithiol, ac nad yw i’w ystyried yn syrcas deithiol, at ddibenion y Ddeddf. Nid yw’r pŵer hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru restru, mewn rheoliadau, bob math o ymgymeriad, perfformiad neu adloniant sydd i’w ystyried yn syrcas deithiol at ddiben y Ddeddf, neu nad yw i’w ystyried yn syrcas deithiol at ddiben y Ddeddf.

Adran 5 – Pwerau gorfodi

21.Mae’r adran hon yn cyflwyno’r Atodlen, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pwerau gorfodi.

Adran 6 a 7 – Troseddau gan gyrff corfforedig etc.

22.Mae adran 6 yn darparu y gall unigolion penodol fod yn atebol o ran cyfraith trosedd am y drosedd yn adran 1 pan gyflawnir y drosedd gan gyrff penodol. Golyga hyn, er enghraifft, y gallai cyfarwyddwr cwmni fod yn atebol am y drosedd os cyflawnir hi gan y cwmni y mae’r person hwnnw yn gyfarwyddwr arno.

23.Mae’r adran hon yn gymwys i’r drosedd yn adran 1 yn unig, ac nid i’r troseddau yn yr Atodlen.

24.Mae adran 7 yn nodi sut y mae achos i’w ddwyn yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig pan honnir ei bod wedi cyflawni trosedd o dan adran 1.

Adran 8 – Diwygiadau sy’n ymwneud â thrwyddedu syrcasau

25.Er bod y Ddeddf hon yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, caiff syrcasau barhau i gadw anifeiliaid gwyllt. Er mwyn cadw anifeiliaid gwyllt, mae’r diwygiadau a wneir gan yr adran hon yn golygu y gall fod yn ofynnol i’r syrcasau fod â thrwydded sw neu drwydded anifeiliaid gwyllt peryglus.

26.O dan Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (“Deddf 1976”), mae angen trwydded i gadw “anifail gwyllt peryglus” (fel y diffinnir “dangerous wild animal” yn adran 7 o’r Ddeddf honno), yn ddarostyngedig i rai esemptiadau (a nodir yn adran 5 o’r Ddeddf honno). Mae Deddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau 2019 yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1976 fel nad yw syrcasau yn Lloegr nac yn yr Alban wedi eu hesemptio mwyach rhag y gofyniad hwnnw.

27.Mae adran 8(1) yn diwygio adran 5 o Ddeddf 1976 ymhellach fel nad yw syrcasau yng Nghymru ychwaith wedi eu hesemptio mwyach rhag y gofyniad hwnnw. Mae hyn yn golygu y bydd angen trwydded o dan Ddeddf 1976 ar unrhyw syrcas yng Nghymru (boed yn deithiol neu’n sefydlog) sy’n cadw anifail gwyllt peryglus, oni bai bod y syrcas yn dod o dan ddarpariaethau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 (gweler adran 5(1) o Ddeddf 1976).

28.O dan Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (“Deddf 1981”), mae angen trwydded i weithredu sw (“zoo”). Mae adran 8(2) yn diwygio adran 1(2) o Ddeddf 1981 fel bod syrcasau yng Nghymru yn dod o fewn y diffiniad o sw. Mae hyn yn golygu y gallai fod yn ofynnol i syrcas yng Nghymru gael trwydded sw os yw Deddf 1981 yn gymwys iddi (ceir rhai sŵau nad yw Deddf 1981 yn gymwys iddynt. Gweler, er enghraifft, adran 14 o Ddeddf 1981 (hepgoriad i sŵau penodol)). Os nad yw Deddf 1981 yn gymwys, yna gall Deddf 1976 fod yn gymwys ac efallai y bydd angen trwydded anifeiliaid gwyllt peryglus ar y syrcas.

Adran 9 – Pŵer yr Uchel Lys i ddatgan bod gweithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlon

29.Mae’r Ddeddf yn rhwymo’r Goron ac mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill, ond nid yw’n gwneud y Goron ei hun yn atebol o ran cyfraith trosedd (gweler adran 28 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019). Mae adran 9, fodd bynnag, yn darparu y caiff yr Uchel Lys ddatgan bod gweithred neu anweithred y Goron yn anghyfreithlon.

Adran 10 – Tir y Goron: pwerau mynediad

30.Gyda chydsyniad “awdurdod priodol” yn unig y caniateir arfer pŵer mynediad mewn perthynas â thir y Goron. Diffinnir “tir y Goron” yn adran 10(2)(a). Mae’r hyn sy’n cyfrif fel yr “awdurdod priodol”, a chan bwy y mae angen cael caniatâd, yn dibynnu ar berchnogaeth neu reolaeth y tir y Goron o dan sylw, ac fe’i nodir yn adran 10(2)(b). Pan fo unrhyw ansicrwydd ynghylch pa awdurdod a ddylai fod yn rhoi cydsyniad, y Trysorlys sy’n penderfynu.

Adran 11 – Rheoliadau

31.Mae’r pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth i’w harfer drwy offeryn statudol ac yn destun y weithdrefn gadarnhaol.

Adran 12 – Dod i rym

32.Daw’r Ddeddf i rym ar 1 Rhagfyr 2020.

Adran 13 – Enw byr

33.Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) 2020.

Yr Atodlen – Pwerau gorfodi

34.Mae’r Atodlen yn rhoi pwerau i arolygwyr orfodi’r drosedd yn adran 1, yn nodi rhychwant y pwerau hynny ac yn creu troseddau pan fo person yn rhwystro’r pwerau hynny rhag cael eu harfer.

35.Mae paragraff 1 yn diffinio “arolygydd”, “pŵer mynediad” a “mangreoedd”. Mae “mangreoedd”, yn benodol, yn cynnwys pebyll neu strwythurau symudol, ac felly mae’n cynnwys, er enghraifft, garafanau a chartrefi symudol a gysylltir yn gyffredin â syrcasau teithiol.

36.Mae paragraff 2 yn rhoi pŵer i arolygwyr i fynd i fangreoedd nad ydynt yn cael eu defnyddio yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel anheddau ac yn nodi’r amgylchiadau pan fo’r pŵer yn arferadwy.

37.Mae paragraff 3 yn rhoi pŵer i arolygwyr fynd i anheddau. Rhaid i’r arolygydd gael gwarant gan ynad heddwch cyn arfer y pŵer hwn. Mae’r paragraff hwn yn nodi’r materion y mae rhaid eu bodloni cyn i warant gael ei rhoi. Mae paragraff 4 yn darparu bod gwarant o’r fath yn awdurdodi mynd i’r fangre ar un achlysur yn unig a bod rhaid ei defnyddio o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

38.Mae paragraff 5 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd, os gofynnir iddo gan unrhyw berson yn y fangre, ddangos tystiolaeth o’i fanylion adnabod cyn arfer pŵer mynediad a datgan pam y mae’r pŵer yn cael ei arfer. Os bydd arolygydd yn mynd i annedd o dan warant, rhaid iddo, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos copi o’r warant i unrhyw berson yn y fangre, a rhoi copi i’r meddiannydd neu i berson yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y fangre. Os nad yw’r naill na’r llall yn bresennol, rhaid i’r arolygydd adael copi o’r warant mewn man amlwg. Rhaid i’r arolygydd adael y fangre wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd pan gyrhaeddodd.

39.Mae paragraff 6 yn ei gwneud yn ofynnol i arolygydd arfer pŵer mynediad ar adeg resymol oni bai bod yr arolygydd yn credu y byddai aros am yr adeg resymol honno yn llesteirio diben mynd i’r fangre honno a’i harolygu.

40.Mae paragraff 7 yn caniatáu i arolygydd ddefnyddio grym rhesymol pan fo hynny’n angenrheidiol i arfer pŵer mynediad.

41.Mae paragraff 8 yn caniatáu i arolygydd fynd â phersonau eraill gydag ef i’r fangre ac unrhyw beth sy’n angenrheidiol (gan gynnwys cyfarpar a deunyddiau) i gynorthwyo â’u dyletswyddau. Gallai’r cynorthwywyr gynnwys arbenigwyr, megis arbenigwr sŵolegol i helpu i adnabod anifeiliaid, neu gwnstabl yr heddlu.

42.Mae paragraff 9 yn nodi’r pwerau arolygu, chwilio ac ymafael sydd ar gael i arolygydd wrth arfer pŵer mynediad. Ni chaiff arolygydd ymafael mewn anifail gwyllt, ond caiff, er enghraifft, ei archwilio neu gymryd samplau. Mae paragraff 9(d) yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre gynorthwyo’r arolygydd. Gallai arolygydd, er enghraifft, ei gwneud yn ofynnol i berson roi mynediad i’r arolygydd i loc anifeiliaid, helpu’r arolygydd i gydio mewn anifail (er mwyn gallu cymryd samplau) neu symud cerbyd.

43.Mae paragraff 10 yn darparu y caiff unrhyw berson yr eir ag ef i’r fangre gan yr arolygydd arfer pwerau’r arolygydd o dan baragraff 9, ar yr amod ei fod o dan oruchwyliaeth yr arolygydd. Er enghraifft, gallai milfeddyg sy’n mynd gydag arolygydd, o dan oruchwyliaeth, gymryd samplau o anifail at ddibenion adnabod.

44.Mae paragraff 11 yn gwneud darpariaeth ychwanegol ynghylch y pŵer ymafael. Caniateir cadw unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff 9(k) am gyhyd ag y bo angen. Mae paragraff 11(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r arolygydd neu gynorthwyydd yr arolygydd gadw cofnod o’r eitem yr ymafaelir ynddi, ac os gofynnir iddo wneud hynny, ddarparu cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi i’r person a oedd yn meddiannu’r fangre ar yr adeg yr ymafaelwyd yn yr eitem, neu’r person a oedd â’r eitem yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn union cyn yr ymafaelwyd ynddi. Nid yw paragraff 11(3) yn caniatáu ymafael mewn eitemau a allai fod yn ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol, megis dogfennau sy’n cynnwys cyngor gan weithwyr proffesiynol cyfreithiol.

45.Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â chais am gymorth neu os yw’n fwriadol yn rhwystro arolygydd wrth iddo arfer ei ddyletswyddau (paragraff 12). Gellir rhoi trosedd o dan y paragraff hwn ar brawf yn Llys yr Ynadon a chaiff y Llys osod dirwy ddiderfyn os ceir person yn euog.

46.Mae paragraff 13 yn diogelu arolygwyr ac unrhyw berson y mae arolygydd yn mynd ag ef i fangre rhag bod yn atebol mewn unrhyw achos sifil a throseddol am unrhyw beth a wneir neu am unrhyw beth na wneir o ganlyniad i gyflawni eu dyletswyddau. Nid yw’r esemptiad hwn rhag atebolrwydd yn gymwys pan fo’r arolygydd neu’r person sydd o dan oruchwyliaeth yr arolygydd yn ymddwyn mewn modd nad yw’n ddidwyll neu os nad oedd seiliau rhesymol dros weithredu yn y fath fodd.

Cofnod Y Trafodion Yn Y Senedd

47.Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd ar:

CyfnodDyddiad
Cyflwynwyd8 Gorffennaf 2019
Cyfnod 1 – Dadl7 Ionawr 2020
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau5 Chwefror 2020
Cyfnod 3  Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau8 Gorffennaf 2020
Cyfnod 4 Cymeradwywyd gan y Senedd15 Gorffennaf 2020
Y Cydsyniad Brenhinol7 Medi 2020