RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill

9Cyfrinachedd

(1)

Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—

(a)

unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;

(b)

unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).

(2)

Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.