RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7

(1)

Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)

Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.