Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7LL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(g)