RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD
Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill
7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adrodd
(1)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.
(2)
Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.
(3)
Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—
(a)
pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,
(b)
rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac
(c)
disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.