RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD
Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill
5Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiad
(1)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad o dan yr adran hon.
(2)
Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y darparwr gofal sylfaenol.
(3)
Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—
(a)
pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,
(b)
rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac
(c)
disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.
(4)
Os yw’r darparwr gofal sylfaenol, yn ystod yr un flwyddyn ariannol, wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, mae adroddiad ar wahân i’w lunio o dan yr adran hon mewn cysylltiad â phob un o’r cyrff hynny.
(5)
Yn yr adran hon ac adrannau 6 i 8—
(a)
mae cyfeiriadau at flwyddyn ariannol yn gyfeiriadau at bob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;
(b)
mae cyfeiriadau at flwyddyn adrodd, mewn perthynas ag adroddiad, yn gyfeiriadau at y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.