RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD
Cymhwyso’r ddyletswydd
3Pryd y mae’r ddyletswydd gonestrwydd yn gymwys
(1)
Daw’r ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol mewn perthynas â chorff GIG os yw’n ymddangos i’r corff fod y ddau o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni.
(2)
Yr amod cyntaf yw bod person (y “defnyddiwr gwasanaeth”) y mae’r corff yn darparu neu wedi darparu gofal iechyd iddo wedi dioddef canlyniad andwyol.
(3)
Yr ail amod yw bod darparu’r gofal iechyd yn ffactor, neu y gall fod wedi bod yn ffactor, a achosodd i’r defnyddiwr gwasanaeth ddioddef y canlyniad hwnnw.
(4)
At ddiben yr amod cyntaf, mae defnyddiwr gwasanaeth i’w drin fel pe bai wedi dioddef canlyniad andwyol os yw’r defnyddiwr yn profi mwy nag ychydig o niwed annisgwyl neu anfwriadol neu os yw’r amgylchiadau yn golygu y gallai brofi niwed o’r fath.