RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyfansoddiad ymddiriedolaethau’r GIG
24Is-gadeiryddion byrddau cyfarwyddwyr ymddiriedolaethau’r GIG
(1)
Mae Rhan 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 2006 (cyfansoddiad, sefydlu etc. ymddiriedolaethau’r GIG) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Ym mharagraff 3 (bwrdd cyfarwyddwyr)—
(a)
ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—
“(aa)
if the Welsh Ministers consider it appropriate, a vice-chair appointed by them, and”, a
(b)
hepgorer “and” ar ddiwedd is-baragraff (1)(a).
(3)
Ym mharagraff 4 (rheoliadau sy’n ymwneud â phenodi etc. y bwrdd cyfarwyddwyr), yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair”.
(4)
Ym mharagraff 11 (tâl a lwfansau’r cadeirydd a chyfarwyddwyr anweithredol)—
(a)
yn is-baragraff (1)(a), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”, a
(b)
yn is-baragraff (1)(b), ar ôl “chairman” mewnosoder “, the vice-chair (if any)”.