RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y Dinesydd
18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y Dinesydd
(1)
Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.
(2)
Y personau yw—
(a)
awdurdod lleol;
(b)
corff GIG.
(3)
Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.
(4)
Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.