17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y DinesyddLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.
(2)Y personau yw—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff GIG.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
I2A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)