RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y Dinesydd

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi

(1)

Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)

Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)

hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)

ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)

Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)

bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)

bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)

bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.