RHAN 3DYLETSWYDD GONESTRWYDD

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill

11Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraill

(1)

Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)

atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)

hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)

Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)

Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gorff GIG yn gyfeiriad at—

(a)

Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)

ymddiriedolaeth GIG;

(c)

Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)

darparwr gofal sylfaenol.

(4)

Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rhan hon, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(5)

Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.

(6)

Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.

(7)

Yn y Rhan hon—

ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;

mae i “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);

mae i “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yr ystyr a roddir gan adran 4(1);

mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni.