ATODLEN 3Mân Ddiwygiadau a Diwygiadau Canlyniadol

RHAN 2Diwygiadau a diddymiadau sy’n ymwneud â Rhan 4

12Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)

Yn adran 32 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (partneriaid eraill byrddau gwasanaethau cyhoeddus)—

a

hepgorer is-adran (1)(c);

b

ar ôl is-adran (1)(b) mewnosoder—

ba

Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru;