Valid from 29/03/2023
(a gyflwynir gan adran 23(3))
ATODLEN 2LL+CTrosglwyddo Eiddo, Hawliau a Rhwymedigaethau
Cynlluniau trosglwyddoLL+C
1(1)Caiff Gweinidogion Cymru, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, wneud un neu ragor o gynlluniau trosglwyddo.
(2)Mae cynllun trosglwyddo yn gynllun sy’n darparu ar gyfer trosglwyddo i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw eiddo, hawliau a rhwymedigaethau a grybwyllir yn is-baragraff (3).
(3)Mae’r eiddo, yr hawliau a’r rhwymedigaethau yn eiddo ac yn hawliau a gaffaelir, neu’n rhwymedigaethau yr eir iddynt, gan—
(a)Gweinidogion Cymru;
(b)Bwrdd Iechyd Lleol;
(c)ymddiriedolaeth GIG.
(4)Ymhlith y pethau y caniateir eu trosglwyddo o dan gynllun trosglwyddo mae—
(a)eiddo, hawliau a rhwymedigaethau na ellid eu trosglwyddo fel arall;
(b)eiddo a gaffaelir, a hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi, ar ôl i’r cynllun gael ei wneud.
(5)Caiff cynllun trosglwyddo wneud darpariaeth ganlyniadol, atodol, gysylltiedig, drosiannol neu ddarfodol.
(6)Yn rhinwedd is-baragraff (5), caiff cynllun trosglwyddo, er enghraifft—
(a)creu hawliau, neu osod rhwymedigaethau, mewn perthynas ag eiddo neu hawliau a drosglwyddir;
(b)gwneud darpariaeth ynghylch effaith barhaus pethau a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(c)gwneud darpariaeth ynghylch parhad pethau (gan gynnwys achosion cyfreithiol) sydd wrthi’n cael eu gwneud mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir;
(d)gwneud darpariaeth ar gyfer rhannu perchnogaeth ar eiddo neu ddefnydd o eiddo;
(e)gwneud darpariaeth i gyfeiriadau at Lywodraeth Cymru neu Weinidogion Cymru, neu gyfeiriadau at Fwrdd Iechyd Lleol neu ymddiriedolaeth GIG, mewn offeryn neu mewn dogfen arall mewn cysylltiad ag unrhyw beth a drosglwyddir, gael eu trin fel cyfeiriadau at Gorff Llais y Dinesydd;
(f)gwneud yr un ddarpariaeth â darpariaeth a wneir gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246), neu ddarpariaeth sy’n debyg i’r ddarpariaeth honno, mewn achos pan na fo’r rheoliadau hynny yn gymwys mewn perthynas â’r trosglwyddiad.
(7)Caiff cynllun trosglwyddo ddarparu—
(a)ar gyfer ei addasu drwy gytundeb;
(b)i addasiadau gael effaith o’r dyddiad y daeth y cynllun yn effeithiol.
(8)Rhaid i Weinidogion Cymru osod copi o unrhyw gynllun trosglwyddo gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
(9)Yn y paragraff hwn—
(a)mae cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau yn cynnwys cyfeiriadau at hawliau a rhwymedigaethau sy’n codi mewn perthynas â chontract cyflogaeth;
(b)mae cyfeiriadau at drosglwyddo eiddo yn cynnwys cyfeiriadau at roi les.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)
