ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru
RHAN 2Aelodau
7Telerau aelodaeth gyswllt etc.
1
Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.
2
Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.
3
Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.
4
Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).
5
Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.
6
Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.