Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Statws

This is the original version (as it was originally enacted).

(a gyflwynir gan adran 12(2))

ATODLEN 1Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru

This schedule has no associated Explanatory Notes

RHAN 1Statws

Statws

1(1)Nid yw Corff Llais y Dinesydd i’w ystyried yn was nac yn asiant i’r Goron nac ychwaith i’w ystyried yn mwynhau unrhyw statws, imiwnedd na braint sydd gan y Goron.

(2)Nid yw eiddo’r Corff i’w ystyried yn eiddo i’r Goron, nac yn eiddo a ddelir ar ei rhan.

RHAN 2Aelodau

Aelodaeth

2(1)Aelodau Corff Llais y Dinesydd yw—

(a)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn aelod-gadeirydd iddo,

(b)person a benodir gan Weinidogion Cymru yn ddirprwy i’r aelod-gadeirydd,

(c)o leiaf 6 ond dim mwy nag 8 person arall a benodir gan Weinidogion Cymru,

(d)ei brif weithredwr (gweler paragraff 9), ac

(e)pan fo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan y Corff, berson a benodir yn aelod cyswllt iddo (gweler paragraff 6).

(2)Yn yr Atodlen hon, cyfeirir ar y cyd at yr aelodau a benodir gan Weinidogion Cymru fel “aelodau anweithredol”; ac mae unrhyw gyfeiriad yn yr Atodlen hon at arfer swyddogaeth gan yr aelodau anweithredol yn gyfeiriad at yr aelodau anweithredol yn arfer y swyddogaeth fel pwyllgor o’r Corff.

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol

3Caiff person ei anghymhwyso rhag cael ei benodi’n aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd, os yw’r person yn aelod o staff y Corff.

Telerau aelodaeth anweithredol

4(1)Mae aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (2) a (4) a pharagraff 5.

(2)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod anweithredol fod yn hwy na 4 blynedd.

(3)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod anweithredol gael ei ailbenodi’n aelod anweithredol unwaith yn unig (ac mae is-baragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(4)Caiff aelod anweithredol ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru.

(5)Caiff Corff Llais y Dinesydd, gyda chymeradwyaeth Gweinidogion Cymru—

(a)talu tâl, treuliau a lwfansau i’w aelodau anweithredol;

(b)talu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath, a symiau am ddarparu pensiynau neu tuag at ddarparu pensiynau i bersonau sydd wedi bod yn aelodau anweithredol o’r Corff, neu mewn cysylltiad â phersonau o’r fath.

Diswyddo aelodau anweithredol

5(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o Gorff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod anweithredol o’r Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae person yn peidio â bod yn aelod anweithredol o’r Corff os daw’r person yn aelod o staff y Corff.

Penodi’r aelod cyswllt

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys pan—

(a)bo un neu ragor o undebau llafur wedi eu cydnabod gan Gorff Llais y Dinesydd, a

(b)bo swydd yr aelod cyswllt yn wag.

(2)Rhaid i’r aelodau anweithredol wahodd pob un o’r undebau llafur a gydnabyddir gan y Corff i enwebu ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff.

(3)Rhaid i’r gwahoddiad bennu’r cyfnod y mae enwebiad i’w wneud ynddo.

(4)Rhaid i’r aelodau anweithredol benodi person, o blith yr ymgeiswyr cymwys a enwebir yn ystod y cyfnod a bennir o dan is-baragraff (3), fel aelod cyswllt y Corff.

(5)Nid yw person yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt y Corff, ond os yw’r person—

(a)yn aelod o staff y Corff, a

(b)yn aelod o undeb llafur a gydnabyddir gan y Corff.

(6)Yn y Rhan hon—

Telerau aelodaeth gyswllt etc.

7(1)Nid yw aelod cyswllt o Gorff Llais y Dinesydd yn gymwys i bleidleisio mewn unrhyw drafodion gan y Corff.

(2)Mae aelod cyswllt o’r Corff yn dal swydd am unrhyw gyfnod, ac ar unrhyw delerau ac amodau, a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad, ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3) a (5) a pharagraff 8.

(3)Ni chaiff cyfnod y swydd a bennir yn nhelerau penodiad aelod cyswllt fod yn hwy na 4 blynedd.

(4)Caniateir i berson sydd wedi dal swydd fel aelod cyswllt gael ei ailbenodi o dan baragraff 6 yn aelod cyswllt (ac mae is-baragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r penodiad).

(5)Caiff aelod cyswllt o’r Corff ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r aelodau anweithredol.

(6)Caiff Corff Llais y Dinesydd dalu treuliau i aelod cyswllt.

Anghymhwyso rhag penodiad fel aelod anweithredol

8(1)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt Corff Llais y Dinesydd ddiswyddo’r person hwnnw fel yr aelod cyswllt os ydynt wedi eu bodloni—

(a)bod y person yn anaddas i barhau’n aelod, neu

(b)nad yw’r person yn gallu arfer swyddogaethau aelod neu ei fod yn anfodlon gwneud hynny.

(2)Caiff yr aelodau anweithredol drwy hysbysiad ysgrifenedig i aelod cyswllt y Corff atal y person hwnnw dros dro o’i swydd fel yr aelod cyswllt, os yw’n ymddangos iddynt y gall fod sail dros arfer y pŵer yn is-baragraff (1).

(3)Mae aelod cyswllt yn peidio â dal swydd os yw’r aelod yn peidio â bod yn ymgeisydd cymwys i’w benodi’n aelod cyswllt (gweler paragraff 6(5)).

RHAN 3Staff

Prif weithredwr

9(1)Rhaid i aelodau anweithredol Corff Llais y Dinesydd benodi person yn brif weithredwr iddo.

(2)Penodir y prif weithredwr ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan yr aelodau anweithredol yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaniateir gwneud penodiad o dan y paragraff hwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

Staff eraill

10(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd benodi aelodau eraill o staff, yn ogystal â phrif weithredwr.

(2)Penodir aelod o staff o dan y paragraff hwn ar unrhyw delerau ac amodau (gan gynnwys telerau ac amodau o ran tâl, lwfansau a phensiwn) a bennir gan y Corff yn nhelerau’r penodiad.

(3)Ni chaiff y Corff gytuno ar delerau ac amodau o ran tâl, lwfansau neu bensiwn heb gymeradwyaeth Gweinidogion Cymru.

RHAN 4Swyddogaethau Ategol etc.

Pwyllgorau

11(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd sefydlu pwyllgorau ac is-bwyllgorau.

(2)Caiff pwyllgor neu is-bwyllgor gynnwys personau nad ydynt yn aelodau o’r Corff neu fod â phersonau o’r fath yn unig.

(3)Caiff y Corff dalu treuliau a lwfansau i unrhyw berson—

(a)sy’n aelod o bwyllgor neu is-bwyllgor a sefydlir o dan y paragraff hwn, a

(b)nad yw’n aelod o’r Corff, nac yn aelod o’i staff.

Dirprwyo

12(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd drefnu i unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau gael eu harfer gan unrhyw un neu ragor—

(a)o’i bwyllgorau,

(b)o’i is-bwyllgorau,

(c)o’i aelodau, neu

(d)o’i staff.

(2)Nid yw trefniant o dan is-baragraff (1) yn effeithio ar gyfrifoldeb y Corff am arfer swyddogaeth ddirprwyedig, nac ar ei allu i arfer swyddogaeth ddirprwyedig.

Pwerau atodol

13(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd wneud unrhyw beth y bwriedir iddo hwyluso arfer ei swyddogaethau, neu sy’n ffafriol i’w harfer neu’n gysylltiedig â’u harfer.

(2)Ond nid yw is-baragraff (1) yn caniatáu i’r Corff fenthyca arian.

RHAN 5Gweithdrefn etc.

Gweithdrefn

14(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd wneud rheolau i reoleiddio ei weithdrefn ei hun (gan gynnwys cworwm).

(2)Rhaid i’r Corff wneud rheolau i reoleiddio gweithdrefn ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau (gan gynnwys cworwm).

Dilysrwydd trafodion a gweithredoedd

15Nid yw’r materion a ganlyn yn effeithio ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd Corff Llais y Dinesydd (nac ar ddilysrwydd trafodion a gweithredoedd ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau)—

(a)unrhyw swydd wag ymhlith aelodaeth y Corff, neu

(b)unrhyw ddiffyg o ran penodiad aelod.

Sêl

16(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd fod â sêl.

(2)Rhaid i’r weithred o osod y sêl gael ei dilysu drwy lofnod—

(a)unrhyw aelod o’r Corff, neu

(b)unrhyw berson arall sydd wedi ei awdurdodi gan y Corff at y diben hwnnw.

Tystiolaeth

17Mae dogfen yr honnir ei bod wedi ei gweithredu’n briodol o dan sêl Corff Llais y Dinesydd neu wedi ei llofnodi ar ei ran i’w derbyn yn dystiolaeth ac, oni phrofir i’r gwrthwyneb, i’w chymryd fel pe bai wedi ei gweithredu neu ei llofnodi felly.

RHAN 6Materion Ariannol

Cyllid

18Caiff Gweinidogion Cymru wneud taliadau i Gorff Llais y Dinesydd o unrhyw symiau, ac ar unrhyw adegau, ac yn unol ag unrhyw amodau, y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl eu bod yn briodol.

Swyddog cyfrifyddu

19(1)Prif weithredwr Corff Llais y Dinesydd yw ei swyddog cyfrifyddu.

(2)Mae gan y swyddog cyfrifyddu, mewn perthynas â chyfrifon a chyllid y Corff, y cyfrifoldebau a bennir o bryd i’w gilydd gan Weinidogion Cymru.

(3)Ymhlith y cyfrifoldebau y caniateir eu pennu mae—

(a)cyfrifoldebau mewn perthynas â llofnodi cyfrifon;

(b)cyfrifoldebau am briodoldeb a rheoleidd-dra cyllid y Corff;

(c)cyfrifoldebau am ddarbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Corff o’i adnoddau;

(d)cyfrifoldebau sy’n ddyledus i Weinidogion Cymru, Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu ei Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

Cyfrifon

20(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, ar gyfer pob blwyddyn ariannol—

(a)cadw cyfrifon priodol a chofnodion priodol mewn perthynas â’r cyfrifon hynny, a

(b)llunio datganiad o gyfrifon.

(2)Rhaid i bob datganiad o gyfrifon gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddydau a roddir gan Weinidogion Cymru o ran—

(a)yr wybodaeth sydd i’w chynnwys ynddo,

(b)y modd y mae’r wybodaeth i’w chyflwyno, ac

(c)y dulliau a’r egwyddorion y mae’r datganiad i’w lunio yn unol â hwy.

(3)Heb fod yn hwyrach na 31 Awst ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i’r Corff gyflwyno ei ddatganiad o gyfrifon i—

(a)Gweinidogion Cymru, a

(b)Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Archwilio

21(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn perthynas â phob datganiad o gyfrifon a gyflwynir i Archwilydd Cyffredinol Cymru gan Gorff Llais y Dinesydd o dan baragraff 20(3)(b).

(2)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru archwilio’r datganiad o gyfrifon, ei ardystio ac adrodd arno.

(3)Rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 4 mis sy’n dechrau â’r diwrnod pan gyflwynir y datganiad o gyfrifon (“y cyfnod o 4 mis”), osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru—

(a)copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad, neu

(b)os nad yw’n rhesymol ymarferol cydymffurfio â pharagraff (a), ddatganiad i’r perwyl hwnnw, y mae rhaid iddo gynnwys rhesymau o ran pam mae hyn yn wir.

(4)Pan fo Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi gosod datganiad o dan is-baragraff (3)(b) mewn perthynas â datganiad o gyfrifon, rhaid i’r Archwilydd Cyffredinol osod copi o’r datganiad ardystiedig a’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y cyfnod o 4 mis.

(5)Wrth gydymffurfio ag is-baragraff (2) rhaid i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn benodol, archwilio a aed, ym marn yr Archwilydd Cyffredinol, i’r gwariant y mae’r cyfrifon yn ymwneud ag ef, yn gyfreithlon ac yn unol â’r awdurdod sy’n llywodraethu’r gwariant hwnnw, ac adrodd ar hynny.

RHAN 7Gofynion Adrodd etc.

Cynllun blynyddol

22(1)Cyn dechrau pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi cynllun sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i gynllun o dan y paragraff hwn gynnwys datganiad o amcanion a blaenoriaethau’r Corff am y flwyddyn.

(3)Cyn cyhoeddi cynllun o dan y paragraff hwn, rhaid i’r Corff ymgynghori ag unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol ynghylch ei amcanion a blaenoriaethau arfaethedig.

Adroddiadau blynyddol

23(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gyhoeddi adroddiad (“adroddiad blynyddol”) ar arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn.

(2)Rhaid i’r Corff—

(a)anfon copi o’i adroddiad blynyddol at Weinidogion Cymru;

(b)gosod copi o’i adroddiad blynyddol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru

24Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud ag arfer ei swyddogaethau sy’n ofynnol ganddynt o bryd i’w gilydd.

RHAN 8Dehongli

Dehongli cyffredinol

25Yn yr Atodlen hon—

  • mae i “aelod anweithredol” yr ystyr a roddir gan baragraff 2(2);

  • ystyr “blwyddyn ariannol” yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources