RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL
Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y Dinesydd
I1I412Sefydlu Corff Llais y Dinesydd
1
Mae Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “Corff Llais y Dinesydd”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.
2
Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad Corff Llais y Dinesydd a materion perthynol.
I2I513Amcan cyffredinol
1
Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
2
At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.
3
Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.
I3I614Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisi
1
Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.
2
Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—
a
hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a
b
ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.
3
Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—
a
bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,
b
bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac
c
bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.