xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Cyflwyno sylwadau

15Sylwadau i gyrff cyhoeddus

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.

16Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethau

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unrhyw unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn y mae unrhyw un o’r is-adrannau a ganlyn yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn o dan reoliadau o dan adran 171 o Ddeddf 2014 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) (dccc 2).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(b)mater y mae Rhan 5 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) (ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr gofal cartref) yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 42(1)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(6)Hefyd, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn sy’n gallu cael ei hystyried yn sylwadau o dan adran 174 o Ddeddf 2014 (sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc.); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(7)Ni chaiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy o dan is-adran (6) i unigolyn os yw’r unigolyn yn gymwys i gael cynhorthwy mewn perthynas â’r gŵyn yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 178(1)(a) o Ddeddf 2014 (dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu cynhorthwy ar gyfer plant mewn cysylltiad â sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014).

(8)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y darperir unrhyw gynhorthwy o dan yr adran hon iddynt neu y gellir ei ddarparu iddynt.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2014” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).