RHAN 4CORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Cydweithredu wrth arfer swyddogaethau

I1I220Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIG

1

Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, awdurdodau lleol a chyrff y GIG wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

2

At ddibenion is-adran (1) ystyr “swyddogaethau perthnasol”—

a

mewn perthynas â’r Corff, yw ei swyddogaethau o dan adrannau 13(2) a 14(1);

b

mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chyrff y GIG, yw eu swyddogaethau o dan adran 17(1).