xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 4LL+CCORFF LLAIS Y DINESYDD AR GYFER IECHYD A GOFAL CYMDEITHASOL

Sefydlu ac amcan cyffredinol etc. Corff Llais y DinesyddLL+C

12Sefydlu Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Mae Corff Llais y Dinesydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel “Corff Llais y Dinesydd”) wedi ei sefydlu fel corff corfforedig.

(2)Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch cyfansoddiad Corff Llais y Dinesydd a materion perthynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 12 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(a)

13Amcan cyffredinolLL+C

(1)Amcan cyffredinol Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yw cynrychioli buddiannau’r cyhoedd mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(2)At ddibenion cyflawni’r amcan hwnnw, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd geisio barn y cyhoedd, ym mha ffordd bynnag y mae’n meddwl ei bod yn briodol, mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol.

(3)Wrth wneud trefniadau i gydymffurfio ag is-adran (2), rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw’n benodol i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y ceisir barn oddi wrthynt.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I4A. 13 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(j)

14Ymwybyddiaeth y cyhoedd a datganiad polisiLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd gymryd camau i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’i amcan cyffredinol ac o’i swyddogaethau.

(2)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd lunio a chyhoeddi datganiad o’i bolisi sy’n nodi sut y mae’n bwriadu—

(a)hybu ymwybyddiaeth o’i swyddogaethau, a

(b)ceisio barn y cyhoedd at ddibenion ei amcan cyffredinol.

(3)Rhaid i’r datganiad polisi bennu’n benodol sut y mae Corff Llais y Dinesydd, wrth arfer ei swyddogaethau, yn bwriadu sicrhau—

(a)bod y Corff yn cynrychioli buddiannau pobl ym mhob rhan o Gymru,

(b)bod y Corff yn hygyrch i bobl ledled Cymru, ac

(c)bod aelodau o staff y Corff ac unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ran y Corff yn gallu ymgysylltu’n effeithiol â phobl ledled Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I6A. 14 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(k)

Cyflwyno sylwadauLL+C

15Sylwadau i gyrff cyhoeddusLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd gyflwyno sylwadau i berson a grybwyllir yn is-adran (2) ynghylch unrhyw beth y mae’n ystyried ei fod yn berthnasol i ddarparu gwasanaeth iechyd neu ddarparu gwasanaethau cymdeithasol.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Rhaid i berson y mae sylwadau o dan is-adran (1) wedi eu cyflwyno iddo roi sylw i’r sylwadau wrth arfer unrhyw swyddogaeth y mae’r sylwadau yn ymwneud â hi.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r personau a grybwyllir yn is-adran (2), mewn perthynas â sylwadau a gyflwynir o dan yr adran hon.

(5)Rhaid i’r personau hynny roi sylw i’r canllawiau.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I8A. 15 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(l)

16Gwasanaethau eirioli etc. mewn cysylltiad â chwynion am wasanaethauLL+C

(1)Caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unrhyw unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn y mae unrhyw un o’r is-adrannau a ganlyn yn gymwys iddi.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn y mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru, yn rhinwedd adran 187 o Ddeddf 2006, drefnu i wasanaethau eirioli annibynnol gael eu darparu mewn cysylltiad â hi.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn o dan reoliadau o dan adran 171 o Ddeddf 2014 (cwynion ynghylch gwasanaethau cymdeithasol).

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i ddarparwr gwasanaeth mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig (o fewn ystyr Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016) (dccc 2).

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw gŵyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru sy’n ymwneud ag—

(a)swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol;

(b)mater y mae Rhan 5 o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 (dccc 3) (ymchwiliadau gan yr Ombwdsmon mewn perthynas â’r camau gweithredu a gymerwyd gan ddarparwyr cartrefi gofal neu ddarparwyr gofal cartref) yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 42(1)(a) a (b) o’r Ddeddf honno.

(6)Hefyd, caiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy (ar ffurf cynrychiolaeth neu fel arall) i unigolyn sy’n gwneud, neu sy’n bwriadu gwneud, cwyn sy’n gallu cael ei hystyried yn sylwadau o dan adran 174 o Ddeddf 2014 (sylwadau sy’n ymwneud â phlant penodol etc.); ond mae hyn yn ddarostyngedig i is-adran (7).

(7)Ni chaiff Corff Llais y Dinesydd ddarparu cynhorthwy o dan is-adran (6) i unigolyn os yw’r unigolyn yn gymwys i gael cynhorthwy mewn perthynas â’r gŵyn yn rhinwedd trefniadau a wneir o dan adran 178(1)(a) o Ddeddf 2014 (dyletswydd awdurdodau lleol i drefnu cynhorthwy ar gyfer plant mewn cysylltiad â sylwadau sy’n dod o fewn adran 174 o Ddeddf 2014).

(8)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i bwysigrwydd sicrhau, pan fo’n briodol, ymgysylltu wyneb yn wyneb rhwng ei staff, neu unrhyw bersonau eraill sy’n gweithredu ar ei ran, ac unrhyw unigolion y darperir unrhyw gynhorthwy o dan yr adran hon iddynt neu y gellir ei ddarparu iddynt.

(9)Yn yr adran hon, ystyr “Deddf 2014” yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4).

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I10A. 16 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(m)

Dyletswyddau a osodir ar gyrff cyhoeddus penodol mewn cysylltiad â Chorff Llais y DinesyddLL+C

17Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth o weithgareddau Corff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) wneud trefniadau i ddwyn gweithgareddau Corff Llais y Dinesydd i sylw pobl sy’n cael, neu a all gael, gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan neu ar ran y person.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I12A. 17 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(n)

18Dyletswydd i gyflenwi gwybodaeth i Gorff Llais y DinesyddLL+C

(1)Rhaid i berson a grybwyllir yn is-adran (2) gyflenwi i Gorff Llais y Dinesydd unrhyw wybodaeth y mae Corff Llais y Dinesydd yn gofyn yn rhesymol amdani at ddiben cyflawni ei swyddogaethau.

(2)Y personau yw—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff GIG.

(3)Nid oes dim byd yn yr adran hon sy’n ei gwneud yn ofynnol neu sy’n caniatáu datgelu unrhyw wybodaeth a waherddir gan unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol arall.

(4)Rhaid i berson sy’n gwrthod datgelu gwybodaeth mewn ymateb i gais a wneir o dan is-adran (1) roi i Gorff Llais y Dinesydd ei resymau yn ysgrifenedig dros beidio â datgelu’r wybodaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I14A. 18 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(o)

Mynediad i fangreoedd gan Gorff Llais y Dinesydd: dyletswydd i roi sylw i god ymarferLL+C

19Cod ymarfer ar fynediad i fangreoeddLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio a chyhoeddi cod ymarfer ynghylch—

(a)ceisiadau a wneir gan Gorff Llais y Dinesydd i gael mynediad i fangreoedd at ddiben ceisio barn unigolion mewn cysylltiad â gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol, a

(b)pan fo mynediad i’r mangreoedd hynny wedi ei gytuno, ymgysylltu ag unigolion yn y mangreoedd hynny at y diben hwnnw.

(2)Ystyr “mangreoedd” yn is-adran (1) yw unrhyw fangreoedd y darperir gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol ynddynt.

(3)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd roi sylw i’r cod.

(4)Rhaid i bob awdurdod lleol a chorff GIG roi sylw i’r cod (i’r graddau y mae’r cod yn berthnasol) wrth arfer unrhyw swyddogaeth sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau iechyd neu wasanaethau cymdeithasol.

(5)Wrth lunio’r cod rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag—

(a)Corff Llais y Dinesydd;

(b)pob awdurdod lleol;

(c)pob corff GIG;

(d)unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I16A. 19(1)(2)(5) mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(b)

Cydweithredu wrth arfer swyddogaethauLL+C

20Cydweithredu rhwng y Corff, awdurdodau lleol a chyrff y GIGLL+C

(1)Rhaid i Gorff Llais y Dinesydd, awdurdodau lleol a chyrff y GIG wneud trefniadau i gydweithredu gyda golwg ar gefnogi ei gilydd wrth arfer eu swyddogaethau perthnasol.

(2)At ddibenion is-adran (1) ystyr “swyddogaethau perthnasol”—

(a)mewn perthynas â’r Corff, yw ei swyddogaethau o dan adrannau 13(2) a 14(1);

(b)mewn perthynas ag awdurdodau lleol a chyrff y GIG, yw eu swyddogaethau o dan adran 17(1).

Gwybodaeth Cychwyn

I17A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I18A. 20 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(p)

Dehongli’r Rhan honLL+C

21Ystyr “gwasanaethau iechyd” a “gwasanaethau cymdeithasol”LL+C

(1)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau iechyd yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir (pa un ai yng Nghymru neu mewn man arall) o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006, ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at wasanaethau cymdeithasol yn gyfeiriadau at wasanaethau a ddarperir wrth arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol awdurdod lleol.

(4)Yn is-adran (3), mae i “swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol”, mewn perthynas ag awdurdod lleol, yr un ystyr ag sydd iddo at ddibenion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (dccc 4) (gweler, yn benodol, adran 143 o’r Ddeddf honno).

Gwybodaeth Cychwyn

I19A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I20A. 21 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(c)

22Ystyr termau eraillLL+C

Yn y Rhan hon—

Gwybodaeth Cychwyn

I21A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I22A. 22 mewn grym ar 1.4.2022 gan O.S. 2022/208, ergl. 3(d)

Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned etc.LL+C

23Dileu Cynghorau Iechyd Cymuned, a materion cysylltiedigLL+C

(1)Mae adran 182 o Ddeddf 2006, sy’n darparu ar gyfer parhau â Chynghorau Iechyd Cymuned neu eu sefydlu ar gyfer ardaloedd yng Nghymru, wedi ei diddymu, ac mae’r Cynghorau Iechyd Cymuned hynny wedi eu dileu.

(2)Mae Atodlen 10 i Ddeddf 2006, sy’n gwneud darpariaeth bellach ynghylch Cynghorau Iechyd Cymuned, wedi ei diddymu hefyd.

(3)Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â throsglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau, mewn cysylltiad â dileu Cynghorau Iechyd Cymuned.

Gwybodaeth Cychwyn

I23A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I24A. 23(1)(2) mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(q)

I25A. 23(3) mewn grym ar 29.3.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 2(a)