Search Legislation

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: Croes Bennawd: Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill

 Help about opening options

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020, Croes Bennawd: Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraill. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

Gofynion gweithdrefnol a gofynion eraillLL+C

4Gweithdrefn dyletswydd gonestrwyddLL+C

(1)Rhaid i reoliadau ddarparu ar gyfer gweithdrefn (y “weithdrefn gonestrwydd”) sydd i’w dilyn gan gorff GIG y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn perthynas ag ef.

(2)Rhaid i’r rheoliadau ei gwneud yn ofynnol i gorff GIG, fel rhan o’r weithdrefn gonestrwydd—

(a)wrth ddod yn ymwybodol gyntaf fod y ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol, roi hysbysiad o hyn yn unol â’r rheoliadau i’r defnyddiwr gwasanaeth o dan sylw neu rywun sy’n gweithredu ar ran y defnyddiwr gwasanaeth;

(b)hysbysu person a grybwyllir ym mharagraff (a), yn unol â’r rheoliadau, am—

(i)pwy yw person sydd wedi ei enwebu gan y corff yn bwynt cyswllt ar gyfer y defnyddiwr gwasanaeth mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd;

(ii)unrhyw ymholiadau pellach a gynhelir gan y corff mewn cysylltiad â’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd gonestrwydd yn effeithiol odanynt.

(3)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth hefyd—

(a)i’r corff gynnig ymddiheuriad;

(b)mewn cysylltiad â darparu cymorth i ddefnyddiwr gwasanaeth y rhoddir hysbysiad iddo o dan is-adran (2)(a);

(c)ynghylch cadw cofnodion.

(4)Caiff y rheoliadau wneud unrhyw ddarpariaeth arall mewn cysylltiad â’r weithdrefn gonestrwydd y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I2A. 4 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(a)

I3A. 4 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(a)

5Darparwyr gofal sylfaenol: dyletswydd i lunio adroddiadLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y darparwr gofal sylfaenol.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

(4)Os yw’r darparwr gofal sylfaenol, yn ystod yr un flwyddyn ariannol, wedi darparu gofal iechyd ar ran dau neu ragor o Fyrddau Iechyd Lleol, mae adroddiad ar wahân i’w lunio o dan yr adran hon mewn cysylltiad â phob un o’r cyrff hynny.

(5)Yn yr adran hon ac adrannau 6 i 8—

(a)mae cyfeiriadau at flwyddyn ariannol yn gyfeiriadau at bob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth;

(b)mae cyfeiriadau at flwyddyn adrodd, mewn perthynas ag adroddiad, yn gyfeiriadau at y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I5A. 5 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(d)

6Cyflenwi a chrynhoi adroddiad o dan adran 5LL+C

(1)Rhaid i ddarparwr gofal sylfaenol sydd wedi llunio adroddiad o dan adran 5 mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol gyflenwi’r adroddiad i’r Bwrdd Iechyd Lleol hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol y mae adroddiadau wedi eu cyflenwi iddo o dan is-adran (1) lunio crynodeb o’r adroddiadau hynny cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(3)Rhaid i’r crynodeb—

(a)pennu pa mor aml, yn ystod y flwyddyn adrodd, y mae’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol mewn cysylltiad â’r gofal iechyd a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol gan ddarparwr gofal sylfaenol,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y darparwr gofal sylfaenol gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I7A. 6 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(e)

7Bwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG ac Awdurdod Iechyd Arbennig: gofynion adroddLL+C

(1)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol, rhaid i Fwrdd Iechyd Lleol, ymddiriedolaeth GIG neu Awdurdod Iechyd Arbennig lunio adroddiad o dan yr adran hon.

(2)Rhaid i’r adroddiad ddatgan a yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd mewn cysylltiad â darparu gofal iechyd gan y corff.

(3)Os yw’r ddyletswydd gonestrwydd wedi dod yn effeithiol yn ystod y flwyddyn adrodd, rhaid i’r adroddiad—

(a)pennu pa mor aml y mae hyn wedi digwydd yn ystod y flwyddyn adrodd,

(b)rhoi disgrifiad byr o’r amgylchiadau y daeth y ddyletswydd yn effeithiol odanynt, ac

(c)disgrifio unrhyw gamau a gymerwyd gan y corff gyda golwg ar atal amgylchiadau tebyg rhag codi yn y dyfodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I8A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I9A. 7 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(f)

8Cyhoeddi crynodeb adran 6 ac adroddiad adran 7LL+C

(1)Rhaid i gorff GIG y mae adran 7 yn gymwys iddo gyhoeddi’r adroddiad a lunnir ganddo o dan yr adran honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn adrodd.

(2)Yn achos corff GIG sy’n Fwrdd Iechyd Lleol, rhaid i’r adroddiad gynnwys y crynodeb a lunnir ganddo o dan adran 6.

Gwybodaeth Cychwyn

I10A. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I11A. 8 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(g)

9CyfrinacheddLL+C

(1)Ni chaiff adroddiad a gyhoeddir gan gorff GIG o dan adran 8 enwi—

(a)unrhyw un y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu neu wedi ei ddarparu iddo gan neu ar ran y corff GIG;

(b)unrhyw un sy’n gweithredu ar ran person o fewn paragraff (a).

(2)Wrth benderfynu pa wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiad o dan adran 8, rhaid i gorff GIG roi sylw i’r angen i osgoi darparu gwybodaeth sy’n golygu ei bod yn debygol, o dan yr amgylchiadau, y bydd modd gwybod pwy yw’r unigolyn hwnnw, er nad yw’r wybodaeth yn ei enwi.

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I13A. 9 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(h)

10Canllawiau a roddir gan Weinidogion CymruLL+C

Wrth arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Rhan hon, rhaid i gorff GIG roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I15A. 10 mewn grym ar 1.4.2023 gan O.S. 2023/370, ergl. 3(1)(i)

11Dehongli “gofal iechyd” a thermau eraillLL+C

(1)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at ofal iechyd yn gyfeiriad at wasanaethau a ddarperir yng Nghymru o dan neu yn rhinwedd Deddf 2006 ar gyfer neu mewn cysylltiad ag—

(a)atal salwch, gwneud diagnosis ohono neu ei drin;

(b)hybu ac amddiffyn iechyd y cyhoedd.

(2)Yn is-adran (1), mae i “salwch” yr ystyr a roddir i “illness” yn adran 206 o Ddeddf 2006.

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gorff GIG yn gyfeiriad at—

(a)Bwrdd Iechyd Lleol;

(b)ymddiriedolaeth GIG;

(c)Awdurdod Iechyd Arbennig;

(d)darparwr gofal sylfaenol.

(4)Mae person yn ddarparwr gofal sylfaenol, at ddibenion y Rhan hon, i’r graddau (a dim ond i’r graddau) y mae’r person yn darparu gofal iechyd ar ran Bwrdd Iechyd Lleol yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant o dan Ran 4, 5, 6 neu 7 o Ddeddf 2006 rhwng y person a’r Bwrdd Iechyd Lleol.

(5)Mae gofal iechyd a ddarperir gan un corff GIG (y “corff darparu”) ar ran corff GIG arall (“y corff GIG trefnu”), yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 rhwng y corff darparu a’r corff trefnu, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff darparu, nid y corff trefnu.

(6)Mae gofal iechyd a ddarperir gan berson ac eithrio corff GIG (y “darparwr”), ar ran corff GIG, pa un ai yn rhinwedd contract, cytundeb neu drefniant a wneir o dan Ddeddf 2006 neu fel arall, i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai’n cael ei ddarparu gan y corff GIG, nid y darparwr.

(7)Yn y Rhan hon—

  • ystyr “Awdurdod Iechyd Arbennig” (“Special Health Authority”) yw corff a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf 2006; ond nid yw’n cynnwys unrhyw Awdurdod Iechyd Arbennig trawsffiniol (o fewn yr ystyr a roddir i “cross-border Special Health Authority” yn adran 8A(5) o Ddeddf 2006) ac eithrio Gwaed a Thrawsblaniadau’r GIG;

  • mae i “defnyddiwr gwasanaeth” (“service user”) yr ystyr a roddir gan adran 3(2);

  • mae i “gweithdrefn gonestrwydd” (“candour procedure”) yr ystyr a roddir gan adran 4(1);

  • mae “niwed” (“harm”) yn cynnwys niwed seicolegol ac, yn achos defnyddiwr gwasanaeth sy’n feichiog, golli neu niweidio’r plentyn heb ei eni.

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 29(2)

I17A. 11 mewn grym ar 7.3.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2023/259, ergl. 2(1)(b)

I18A. 11 mewn grym ar 1.4.2023 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2023/370, ergl. 3(2)(b)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources