xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiddymu amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru; ac at ddibenion cysylltiedig.
[20 Mawrth 2020]
Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:
(1)Mae amddiffyniad cosb resymol yn y gyfraith gyffredin wedi ei ddiddymu mewn perthynas â rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru.
(2)Yn unol â hynny, ni chaniateir cyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr â chosb resymol.
(3)Ni chaniateir ychwaith gyfiawnhau rhoi cosb gorfforol i blentyn sy’n digwydd yng Nghymru mewn unrhyw achos sifil neu droseddol ar y sail ei bod yn gyfystyr ag ymddygiad derbyniol at ddibenion unrhyw reol arall yn y gyfraith gyffredin.
(4)At ddibenion yr adran hon, ystyr “cosb gorfforol” yw unrhyw guro (yn yr ystyr sydd i “battery” yn y gyfraith gyffredin) a wneir fel cosb.
(5)Yn adran 58 o Ddeddf Plant 2004 (p. 31) (cosb resymol)—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “battery of a child” mewnosoder “taking place in England”,
(b)yn is-adran (3), ar ôl “Battery of a child” mewnosoder “taking place in England”, ac
(c)mae’r pennawd yn newid i “Reasonable punishment: England”.
Rhaid i Weinidogion Cymru gymryd camau cyn i adran 1 ddod i rym er mwyn hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r newidiadau i’r gyfraith sydd i’w gwneud gan yr adran honno.
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru lunio dau adroddiad ar effaith y newidiadau i’r gyfraith a wneir gan adran 1.
(2)Rhaid llunio’r adroddiad cyntaf cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 3 blynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.
(3)Rhaid llunio’r ail adroddiad cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r cyfnod o 5 mlynedd, sy’n dechrau pan ddaw adran 1 i rym, ddod i ben.
(4)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl llunio adroddiad o dan yr adran hon—
(a)gosod yr adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a
(b)cyhoeddi’r adroddiad.
(1)Caiff rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru wneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dod ag adran 1 i rym.
(2)Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(1)Daw’r adran hon ac adran 2, adran 3, adran 4 ac adran 6 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw adran 1 i rym pan ddaw’r cyfnod o 2 flynedd sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol i ben.
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.