41Dehongliad cyffredinolLL+C
This section has no associated Explanatory Notes
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);
ystyr “Deddf 2006” (“2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;
ystyr “Gorchymyn 2007” (“2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236);
ystyr “Rheoliadau 2001” (“2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341);
ystyr “Senedd” yw Senedd Cymru;
ystyr “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yw swyddog cofrestru a benodir gan awdurdod lleol o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 41 mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 42(1)(e)