RHAN 6CYFFREDINOL

41Dehongliad cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

ystyr “Deddf 1983” (“1983 Act”) yw Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p. 2);

ystyr “Deddf 2006” (“2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);

ystyr “deddfiad” (“enactment”) yw deddfiad pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir;

ystyr “Rheoliadau 2001” (“2001 Regulations”) yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (O.S. 2001/341);

ystyr “Senedd” yw Senedd Cymru;

ystyr “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yw swyddog cofrestru a benodir gan awdurdod lleol o dan adran 8(2A) o Ddeddf 1983.