RHAN 6CYFFREDINOL

I140Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

1

Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

a

yn arferadwy drwy offeryn statudol;

b

yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

c

yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

2

Ni chaniateir i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

3

Mae is-adran (2) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys—

a

rheoliadau o dan adran 15(1) (gwahoddiadau i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oed) neu adran 39 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.) sy’n diwygio, diddymu neu’n addasu darpariaeth mewn—

i

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

ii

Mesur a basiwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 2006, neu

iii

Deddf a basiwyd o dan Ran 4 o Ddeddf 2006;

b

rheoliadau o dan adran 26(1).

4

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon nad yw is-adran (2) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.