RHAN 4ANGHYMHWYSO

34Effaith anghymhwyso

(1)

Mae adran 18 o Ddeddf 2006 (effaith anghymhwyso) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Ar y dechrau, mewnosoder—

“A1

If a person who is disqualified from being a candidate to be a Member of the Senedd (see section 16(A1)) is nominated as a candidate at a general election of Members of the Senedd or an election to fill a vacancy under section 10, the person’s nomination is void.”

(3)

Hepgorer is-adran (2).

(4)

Yn is-adran (3), hepgorer “or” a pharagraff (b).

(5)

Yn is-adran (8), hepgorer “or” a pharagraff (b).

(6)

Yn adran 19(1) o Ddeddf 2006 (achosion barnwrol o ran anghymhwyso), hepgorer paragraff (b) a’r “or” o’i flaen.