RHAN 3ETHOLIADAU

Cofrestru etholiadol

27Diwygiadau i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007

(1)

Mae Gorchymyn 2007 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn erthygl 2(1)—

(a)

ar ôl y diffiniad o “qualifying Commonwealth citizen” mewnosoder—

““qualifying foreign citizen” means a person who—

(a)

is not a Commonwealth citizen, a citizen of the Republic of Ireland or a relevant citizen of the Union, and

(b)

either—

  1. (i)

    is not a person who requires leave under the Immigration Act 1971 to enter or remain in the United Kingdom, or

  2. (ii)

    is such a person but for the time being has (or is, by virtue of any enactment, to be treated as having) any description of such leave;”;

(b)

yn y diffiniad o “qualifying Commonwealth citizen” yn lle “indefinite leave to remain within the meaning of that Act” hyd at y diwedd rhodder “any description of such leave”;

(c)

ar ddiwedd y diffiniad o “valid postal voting statement”, hepgorer “and”;

(d)

ar ôl y diffiniad o “voter”, mewnosoder—

““voting age” means 16 years of age or over.”

(3)

Yn erthygl 11 (dirprwyon yn etholiadau’r Cynulliad)—

(a)

ym mharagraff (3)(b), ar ôl “Union” mewnosoder “nor a qualifying foreign citizen”;

(b)

ym mharagraff (4), yn lle “eighteen” rhodder “16”.

(4)

Yn erthygl 26(3)(b) (effaith cofrestrau), ar ôl is-baragraff (i) mewnosoder—

“(ia)

a qualifying foreign citizen;”.

(5)

Mae’r diwygiadau a ganlyn yn cael effaith at ddibenion etholiad i fod yn Aelod o’r Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny—

(a)

y diwygiad a wneir gan is-adran (2)(d) i’r graddau y mae’n diffinio “voting age” yn erthygl 26(3)(a) o Orchymyn 2007;

(b)

y diwygiadau a wneir gan is-adrannau (3) a (4).