RHAN 3ETHOLIADAU
Cofrestru etholiadol
I125Eithriadau i’r gwaharddiad ar ddatgelu
1
Mae’r adran hon yn gymwys at ddiben adran 24(1).
2
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddiben cyflawni swyddogaethau’r person hwnnw mewn cysylltiad ag—
a
cofrestru etholwyr, neu
b
cynnal etholiad.
3
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc yn unol â rheoliad F132ZBD(9) a (9A) o Reoliadau 2001 (rhagboblogi’r ffurflen ganfasio).
4
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc (oni bai am unrhyw wybodaeth y gellid canfod dyddiad geni’r person oddi wrthi) mewn fersiwn neu gopi o’r gofrestr o etholwyr llywodraeth leol neu gofnod neu restr o bleidleiswyr absennol a gyflenwir yn unol â deddfiad cyflenwi perthnasol, ond dim ond i’r graddau y bo gwneud hynny’n angenrheidiol at ddibenion etholiad lle y bydd gan y person ifanc hawl i bleidleisio neu mewn cysylltiad ag etholiad o’r fath.
5
Yn is-adran (4), ystyr “deddfiad cyflenwi perthnasol” yw—
a
rheoliad 100 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i’r Comisiwn Etholiadol);
b
rheoliad 104 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ddeiliaid swyddi etholiadol perthnasol ac ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i Aelod o’r SeneddF2, i aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, i faer etholedig ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru neu i ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol;
c
rheoliad 108 o Reoliadau 2001 (cyflenwi i ymgeiswyr), i’r graddau y mae’n gymwys i ymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd F3neu mewn etholiadau llywodraeth leol;
d
rheoliad 102 o Reoliadau 2001 (darpariaeth gyffredinol), i’r graddau y mae’n ymwneud â rheoliadau 104 a 108;
F4e
rheoliad 61 o reoliadau 2001 (cofnodion neu restrau pleidleiswyr absennol) i’r graddau y mae’n gymwys i etholiadau llywodraeth leol ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i’r rheoliad hwnnw mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd;
F5f
rheoliad 98 o reoliadau 2001 (cyflenwi i swyddogion canlyniadau) i’r graddau y mae’n gymwys i swyddogion canlyniadau cynghorau cymuned a swyddogion canlyniadau ar gyfer unrhyw etholiadau’r Senedd ac unrhyw ddeddfiad sy’n gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i reoliad 98(4) mewn perthynas ag etholiadau’r Senedd.
6
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i unrhyw berson i’r graddau y bo hynny’n angenrheidiol at ddibenion ymchwiliad troseddol neu achos troseddol sy’n ymwneud â throsedd (neu drosedd honedig) o dan unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud ag—
a
cofrestru etholwyr, neu
b
cynnal etholiadau.
7
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
8
Rhaid i swyddog cofrestru gyflenwi gwybodaeth person ifanc i’r person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef os bydd y person ifanc yn gofyn am yr wybodaeth at ddiben gwirio bod y person ifanc yn rhoddwr a ganiateir o fewn ystyr (“permissible donor”) yn adran 54(2)(a) o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (p. 41).
9
Caniateir datgelu gwybodaeth person ifanc i berson a benodwyd yn ddirprwy i bleidleisio ar ran y person ifanc y mae’r wybodaeth yn ymwneud ag ef.
10
Ni chaiff person y datgelwyd gwybodaeth person ifanc iddo o dan is-adran (2) neu (6) ddatgelu’r wybodaeth i berson arall, ac eithrio fel y crybwyllir yn yr is-adran honno.
11
Mae person sy’n torri is-adran (10) yn cyflawni trosedd ac mae’n agored i ddirwy ar euogfarn ddiannod.