xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Ni chaiff swyddog cofrestru gyhoeddi, cyflenwi neu ddatgelu fel arall wybodaeth person ifanc, heblaw yn unol â’r canlynol—
(a)adran 25, neu
(b)rheoliadau o dan adran 26.
(2)Yn yr adran hon ac adrannau 25 a 26—
ystyr “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol” (“absent voters record or list”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
cofnod a gedwir o dan [F1erthygl 6(4), 7(7) neu 10(6) o Orchymyn 2025];
rhestr a gedwir o dan [F2erthygl 8 neu 10(8) o Orchymyn 2025];
[F3i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, cofnod a gedwir o dan baragraff 3(4) neu 7(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 (p. 2) (pleidleisio absennol);;
i’r graddau y mae’n ymwneud ag etholiadau llywodraeth leol, rhestr a gedwir o dan baragraff 5 neu 7(8) o’r Atodlen honno; ]
mae “cofrestr o etholwyr llywodraeth leol” (“register of local government electors”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad o addasiad yn y gofrestr o dan adran 13A(2), 13AB(2) neu 13B(3), (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983;
ystyr “gwybodaeth person ifanc” (“a young person’s information”) yw unrhyw—
cofnod yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu
eitem mewn cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol,
sy’n ymwneud â pherson sydd, adeg cyhoeddi neu gyflenwi’r wybodaeth neu ei datgelu fel arall, o dan 16 oed, ac mae “person ifanc” i’w ddehongli yn unol â hynny;
mae “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yn cynnwys—
dirprwy i swyddog cofrestru;
person a benodir i gynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni swyddogaethau’r swyddog cofrestru;
person, yng nghwrs cyflogaeth y person, sy’n cynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni’r swyddogaethau hynny.
[F4(3)Yn adrannau 25 a 26, ystyr “etholiad llywodraeth leol” yw—
(a)etholiad ar gyfer cynghorwyr dros unrhyw ward etholiadol neu ward gymunedol yng Nghymru neu, yn achos cymuned yng Nghymru lle nad oes unrhyw wardiau, y gymuned, y cynhelir yr etholiad ar gyfer cynghorwyr ar ei chyfer o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70), neu
(b)etholiad i ethol maer etholedig (o fewn ystyr adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p. 22)) ar gyfer awdurdod lleol yng Nghymru.]
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 24(2) wedi eu hamnewid (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 11 para. 1(2)(a) (ynghyd ag ergl. 1(4))
F2Geiriau yn a. 24(2) wedi eu hamnewid (18.7.2025) gan Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 (O.S. 2025/864), ergl. 1(2), Atod. 11 para. 1(2)(b) (ynghyd ag ergl. 1(4))
F3Geiriau yn a. 24(2) wedi eu mewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(2)(a) (ynghyd ag a. 3)
F4A. 24(3) wedi ei fewnosod (20.3.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), a. 175(3)(f), Atod. 2 para. 15(2)(b) (ynghyd ag a. 3)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 24 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)