Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

24Diogelu gwybodaeth am bersonau o dan 16 oedLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Ni chaiff swyddog cofrestru gyhoeddi, cyflenwi neu ddatgelu fel arall wybodaeth person ifanc, heblaw yn unol â’r canlynol—

(a)adran 25, neu

(b)rheoliadau o dan adran 26.

(2)Yn yr adran hon ac adrannau 25 a 26—

  • ystyr “cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol” (“absent voters record or list”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—

    (a)

    cofnod a gedwir o dan erthygl 8(3), 9(6) neu 12(6) o Orchymyn 2007;

    (b)

    rhestr a gedwir o dan erthygl 10 neu 12(8) o Orchymyn 2007;

  • mae “cofrestr o etholwyr llywodraeth leol” (“register of local government electors”) yn cynnwys unrhyw hysbysiad o addasiad yn y gofrestr o dan adran 13A(2), 13AB(2) neu 13B(3), (3B) neu (3D) o Ddeddf 1983;

  • ystyr “gwybodaeth person ifanc” (“a young person’s information”) yw unrhyw—

    (a)

    cofnod yn y gofrestr o etholwyr llywodraeth leol, neu

    (b)

    eitem mewn cofnod neu restr o bleidleiswyr absennol,

    sy’n ymwneud â pherson sydd, adeg cyhoeddi neu gyflenwi’r wybodaeth neu ei datgelu fel arall, o dan 16 oed, ac mae “person ifanc” i’w ddehongli yn unol â hynny;

  • mae “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yn cynnwys—

    (a)

    dirprwy i swyddog cofrestru;

    (b)

    person a benodir i gynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni swyddogaethau’r swyddog cofrestru;

    (c)

    person, yng nghwrs cyflogaeth y person, sy’n cynorthwyo swyddog cofrestru i gyflawni’r swyddogaethau hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 24 mewn grym ar 1.6.2020, gweler a. 42(3)(a)