Search Legislation

Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

Newidiadau dros amser i: ATODLEN 1

 Help about opening options

Alternative versions:

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ATODLEN 1. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.

(a gyflwynir gan adran 9)

ATODLEN 1LL+CMÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â RHAN 2

This schedule has no associated Explanatory Notes

Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (p. 36)LL+C

1Mae Rhan 6 o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn—

(a)hepgorer “The National Assembly for Wales Remuneration Board”;

(b)yn y lle priodol mewnosoder “The Independent Remuneration Board of the Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

2(1)Mae Deddf 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn enw Rhan 1, yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd Cymru”.

(3)Yn adran 1—

(a)yn is-adran (1), yn lle “an Assembly” rhodder “a parliament”;

(b)yn is-adran (3), yn lle “Members of the Assembly (referred to in this Act as “Assembly members”)” rhodder “Members of the Senedd”.

(4)Yn adran 20(8), yn lle “National Assembly for Wales Remuneration Board” rhodder “Independent Remuneration Board of the Senedd”.

(5)Yn adran 23(5), yn lle “Assembly member’s” rhodder “Member’s”.

(6)Yn adran 126A—

(a)yn is-adran (9), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd”;

(b)yn is-adran (10), yn lle “National Assembly for Wales” rhodder “Senedd”.

(7)Yn adran 150A—

(a)yn y pennawd, yn lle “Change of name of the Assembly etc: translation of references” rhodder “Translation of references to Senedd Cymru etc.”;

(b)hepgorer is-adran (1);

(c)yn is-adran (2)—

(i)yn lle “, the National Assembly for Wales Commission or an Act of the National Assembly for Wales (as the case may be), or the Welsh equivalent shown in subsection (1)” rhodder “(or Cynulliad Cenedlaethol Cymru), the National Assembly for Wales Commission (or Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru) or Acts of the National Assembly for Wales (or Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru) (as the case may be)”;

(ii)yn lle “new name” rhodder “name given by Part 2 of the Senedd and Elections (Wales) Act 2020”;

(d)ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)Unless the context requires otherwise, a reference to Senedd Cymru or the Welsh Parliament, the Senedd Commission (or Comisiwn y Senedd) or Acts of Senedd Cymru (or Deddfau Senedd Cymru) (as the case may be), in—

(a)any enactment (including any enactment comprised in or made under this Act) or prerogative instrument, or

(b)any other instrument or document,

is to be read as including a reference to the previous name.

(8)Yn adran 159—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer “the Assembly” hyd at y cofnod ar gyfer “Assembly electoral region”;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer “Assembly member” hyd at y cofnod ar gyfer “Assembly’s legislative competence (in relation to Acts of the Assembly)”;

(c)mewnosoder yn y lleoedd priodol—

Member of the Seneddsection 1(2A)
the Seneddsection 1(1)
the Senedd Commissionsection 27(1)
Senedd constituencysection 2(1)
Senedd constituency membersection 1(2)(a)
Senedd electoral regionsection 2(2) and (3)
Senedd proceedingssection 1(5)
Senedd regional membersection 1(2)(b)
Senedd’s legislative competence (in relation to Acts of the Senedd)section 108A.

(9)Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)yn is-baragraff (i), yn lle ““the National Assembly for Wales”” rhodder ““Senedd Cymru””;

(ii)ynis-baragraff (xi), ynlle ““the National Assembly for Wales Commission”” rhodder ““the Senedd Commission””;

(b)ym mharagraff (c)(i), yn lle ““Acts of the National Assembly for Wales”” rhodder ““Acts of Senedd Cymru””.

(10)Yn Atodlen 9A—

(a)hepgorer y cofnod ar gyfer “The National Assembly for Wales Commissioner for Standards or Comisiynydd Safonau ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”;

(b)hepgorer y cofnod ar gyfer “The National Assembly for Wales Remuneration Board or Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru.”;

(c)yn y lle priodol mewnosoder “The Independent Remuneration Board of the Senedd or Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd.”;

(d)yn y lle priodol mewnosoder “The Senedd Commissioner for Standards or Comisiynydd Safonau y Senedd.”

(11)Mae is-baragraffau (15) i (19) yn gymwys i bob darpariaeth sy’n cynnwys y geiriau sydd i’w hamnewid gan yr is-baragraffau hynny ar ôl i’r diwygiadau yn Rhan 2 ac is- baragraffau (3) i (10) gael eu gwneud, yn ddarostyngedig i is-baragraffau (12) a (13).

(12)Nid yw is-baragraffau (15) i (19) yn gymwys i—

(a)enwau deddfiadau a chyfeiriadau at enwau deddfiadau;

(b)darpariaethau a ddiddymwyd yn Neddf 2006 sydd wedi eu harbed;

(c)adran 150A;

(d)paragraff 3(8) o Atodlen 2;

(e)Atodlen 10;

(f)Atodlen 11;

(g)Atodlen 12.

(13)Nid yw is-baragraffau (18) ac (19) yn gymwys i gyfeiriadau at “Assembly Measure“ neu “Assembly Measures”.

(14)Yn y paragraff hwn, mae “darpariaeth” yn cynnwys enw, croesbennawd neu bennawd.

(15)Yn lle “an Assembly member”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “a Member of the Senedd”.

(16)Yn lle “Assembly member”, ym mhob lle y mae’n ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is- baragraff (15) gael eu gwneud, rhodder “Member of the Senedd”.

(17)Yn lle “Assembly members”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Members of the Senedd”.

(18)Yn lle “an Assembly”, ym mhob lle y mae’n ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is- baragraffau (15), (16) a (17) gael eu gwneud, rhodder “a Senedd”.

(19)Yn lle “Assembly” ac “Assembly’s”, ym mhob lle y maent yn ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is-baragraffau (15), (16), (17) a (18) gael eu gwneud, rhodder “Senedd” a “Senedd’s”, fel y bo’n briodol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 (mccc 4)LL+C

3(1)Mae Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn y croesbennawd o flaen adran 1, yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”.

(3)Yn adran 1—

(a)yn is-adrannau (3)(e) ac (f) hepgorer “Cynulliad”;

(b)yn is-adran 8(c), hepgorer “Cynulliad” yn yr ail le y mae’n ymddangos.

(4)Yn adran 20—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer y diffiniad o “Aelod Cynulliad”, ac yn y lle priodol mewnosoder⁠—

  • “mae “Aelod o’r Senedd” (“Member of the Senedd”) yn cynnwys—

    (a)

    at ddibenion adran 1(3)(a) a (b) yn unig, y Cwnsler Cyffredinol hyd yn oed os nad yw’r swyddog hwnnw’n Aelod o’r Senedd, a

    (b)

    ac eithrio at ddibenion adran 1(3)(a) a (b), cyn Aelod o’r Senedd,;

(ii)yn y diffiniad o “y Comisiwn”, yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”;

(iii)yn y diffiniad o “Cwnsler Cyffredinol” hepgorer “Cynulliad”;

(b)yn is-adran (2)(a), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru.”

(5)Yn yr Atodlen—

(a)yn y pennawd, yn lle “CYNULLIAD CENEDLAETHOL CYMRU” rhodder “Y SENEDD”;

(b)ym mharagraff 3, yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru”rhodder “y Senedd”.

(6)Mae is-baragraffau (8) i (11) yn gymwys i bob darpariaeth sy’n cynnwys y geiriau sydd i’w hamnewid gan yr is-baragraffau hynny ar ôl i’r diwygiadau yn Rhan 2 ac is- baragraffau (2) i (5) gael eu gwneud, yn ddarostyngedig i is-baragraff (7).

(7)Nid yw is-baragraffau (8) i (11) yn gymwys i—

(a)enwau deddfiadau a chyfeiriadau at enwau deddfiadau;

(b)adran 21(1).

(8)Yn lle “Aelod Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelod o’r Senedd”.

(9)Yn lle “Aelodau Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(10)Yn adran 8(2)(a)(iv), yn lle “Aelodau’r Cynulliad” rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(11)Yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is- baragraffau (8) i (10) gael eu gwneud, rhodder “Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 (mccc 4)LL+C

4(1)Mae Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mhennawd adran 1, yn lle “Bwrdd Taliadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd”.

(3)Yn adran 2(2)(b) ac ym mharagraff 4 o Atodlen 2, yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.

(4)Yn adran 2(4)(b) ac adran 14(1), yn lle “grwpiau o aelodau’r Cynulliad” rhodder “grwpiau o Aelodau”.

(5)Hepgorer adran 17.

(6)Yn Atodlen 1, ym mharagraff 1—

(a)yn is-baragraff (d), yn lle “aelod Cynulliad rhanbarthol” rhodder ”Aelod rhanbarthol o’r Senedd”;

(b)yn is-baragraff (g) hepgorer “Cynulliad”;

(c)yn is-baragraff (h), yn lle “grŵp o aelodau’r Cynulliad” rhodder “grŵp o Aelodau”;

(d)yn is-baragraff (j), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “y Senedd”;

(e)yn is-baragraff (n) hepgorer “Cynulliad”.

(7)Mae is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys i bob darpariaeth sy’n cynnwys y geiriau sydd i’w hamnewid gan yr is-baragraffau hynny ar ôl i’r diwygiadau yn Rhan 2 ac is- baragraffau (3) i (6) gael eu gwneud, yn ddarostyngedig i is-baragraff (8).

(8)Nid yw is-baragraffau (9) i (12) yn gymwys i—

(a)enwau deddfiadau a chyfeiriadau at enwau deddfiadau;

(b)adrannau 15, 19 ac 20;

(c)paragraff 1(e) o Atodlen 1;

(d)Atodlen 3.

(9)Yn lle “aelod o’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelod o’r Senedd”.

(10)Yn lle “aelodau’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(11)Yn lle “aelodau o’r Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Aelodau o’r Senedd”.

(12)Yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is- baragraffau (9), (10) a (11) gael eu gwneud, rhodder “Senedd”.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)LL+C

5(1)Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 2—

(a)yn is-adran (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(b)yn is-adrannau (5) a (6), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru” ac yn is-adran (7), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Senedd Cymru”.

(3)Yn y darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (4)—

(a)hepgorer “Cynulliad”;

(b)yn lle “is-offeryn Cymreig” rhodder “offeryn”.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 13(3);

(b)adran 16(2)(a), (3)(a) a (5);

(c)adran 25(1)(b);

(d)adran 26(1)(b).

(5)Yn adran 40—

(a)ym mhennawd yr adran ac is-adran (1), yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Senedd”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”;

(ii)ym mharagraff (a), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(iii)ym mharagraff (b), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” ac “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru”;

(iv)ym mharagraffau (c), (d) ac (e), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(c)yn is-adran (3)(b), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.

(6)Yn adran 43(2) a (3), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”.

(7)Yn y Tabl yn Atodlen 1—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer—

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission);
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales);
Deddf Cynulliad (Assembly Act).

(b)mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd)mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
Comisiwn y Senedd (Senedd Commission)ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru);
Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru)ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom)mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr;
Senedd Cymru (Senedd Cymru)ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru).

(8)Yn lle “Deddf Cynulliad” a “Ddeddf Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is-baragraffau (3) a (7) gael eu gwneud, rhodder “Deddf gan Senedd Cymru” neu “Ddeddf gan Senedd Cymru” yn ôl y digwydd, ac yn adran 37(2)(a), yn lle “Deddf dros dro gan y Cynulliad” rhodder “Deddf dros dro gan Senedd Cymru”.

(9)Yn lle “Deddfau’r Cynulliad” a “Ddeddfau’r Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder “Deddfau Senedd Cymru” neu “Ddeddfau Senedd Cymru” yn ôl y digwydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 6.5.2020, gweler a. 42(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources