Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)

This section has no associated Explanatory Notes

5(1)Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 2—

(a)yn is-adran (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(b)yn is-adrannau (5) a (6), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru” ac yn is-adran (7), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Senedd Cymru”.

(3)Yn y darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (4)—

(a)hepgorer “Cynulliad”;

(b)yn lle “is-offeryn Cymreig” rhodder “offeryn”.

(4)Y darpariaethau yw—

(a)adran 13(3);

(b)adran 16(2)(a), (3)(a) a (5);

(c)adran 25(1)(b);

(d)adran 26(1)(b).

(5)Yn adran 40—

(a)ym mhennawd yr adran ac is-adran (1), yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Senedd”;

(b)yn is-adran (2)—

(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”;

(ii)ym mharagraff (a), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(iii)ym mharagraff (b), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” ac “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru”;

(iv)ym mharagraffau (c), (d) ac (e), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;

(c)yn is-adran (3)(b), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.

(6)Yn adran 43(2) a (3), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”.

(7)Yn y Tabl yn Atodlen 1—

(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer—

Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission);
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales);
Deddf Cynulliad (Assembly Act).

(b)mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—

Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd)mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
Comisiwn y Senedd (Senedd Commission)ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru);
Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru)ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru);
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom)mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr;
Senedd Cymru (Senedd Cymru)ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru).

(8)Yn lle “Deddf Cynulliad” a “Ddeddf Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is-baragraffau (3) a (7) gael eu gwneud, rhodder “Deddf gan Senedd Cymru” neu “Ddeddf gan Senedd Cymru” yn ôl y digwydd, ac yn adran 37(2)(a), yn lle “Deddf dros dro gan y Cynulliad” rhodder “Deddf dros dro gan Senedd Cymru”.

(9)Yn lle “Deddfau’r Cynulliad” a “Ddeddfau’r Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder “Deddfau Senedd Cymru” neu “Ddeddfau Senedd Cymru” yn ôl y digwydd.