xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
5(1)Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 2—
(a)yn is-adran (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
(b)yn is-adrannau (5) a (6), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru” ac yn is-adran (7), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Senedd Cymru”.
(3)Yn y darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (4)—
(a)hepgorer “Cynulliad”;
(b)yn lle “is-offeryn Cymreig” rhodder “offeryn”.
(4)Y darpariaethau yw—
(a)adran 13(3);
(b)adran 16(2)(a), (3)(a) a (5);
(c)adran 25(1)(b);
(d)adran 26(1)(b).
(5)Yn adran 40—
(a)ym mhennawd yr adran ac is-adran (1), yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Senedd”;
(b)yn is-adran (2)—
(i)yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”;
(ii)ym mharagraff (a), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
(iii)ym mharagraff (b), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” ac “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru”;
(iv)ym mharagraffau (c), (d) ac (e), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
(c)yn is-adran (3)(b), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.
(6)Yn adran 43(2) a (3), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”.
(7)Yn y Tabl yn Atodlen 1—
(a)hepgorer y cofnodion ar gyfer—
“Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission)”; |
“Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales)”; |
“Deddf Cynulliad (Assembly Act)”. |
(b)mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—
“Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd) | mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)”; |
“Comisiwn y Senedd (Senedd Commission) | ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru)”; |
“Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru) | ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru)”; |
“Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom) | mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr”; |
“Senedd Cymru (Senedd Cymru) | ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru)”. |
(8)Yn lle “Deddf Cynulliad” a “Ddeddf Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is-baragraffau (3) a (7) gael eu gwneud, rhodder “Deddf gan Senedd Cymru” neu “Ddeddf gan Senedd Cymru” yn ôl y digwydd, ac yn adran 37(2)(a), yn lle “Deddf dros dro gan y Cynulliad” rhodder “Deddf dros dro gan Senedd Cymru”.
(9)Yn lle “Deddfau’r Cynulliad” a “Ddeddfau’r Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder “Deddfau Senedd Cymru” neu “Ddeddfau Senedd Cymru” yn ôl y digwydd.