ATODLEN 1MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL SY’N YMWNEUD Â RHAN 2
5Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)
1
Mae Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn adran 2—
a
yn is-adran (2), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
b
yn is-adrannau (5) a (6), yn lle “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru” ac yn is-adran (7), yn lle “i’r Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “i Senedd Cymru”.
3
Yn y darpariaethau a grybwyllir yn is-baragraff (4)—
a
hepgorer “Cynulliad”;
b
yn lle “is-offeryn Cymreig” rhodder “offeryn”.
4
Y darpariaethau yw—
a
adran 13(3);
b
adran 16(2)(a), (3)(a) a (5);
c
adran 25(1)(b);
d
adran 26(1)(b).
5
Yn adran 40—
a
ym mhennawd yr adran ac is-adran (1), yn lle “Cynulliad”, ym mhob lle y mae’n ymddangos, rhodder “Senedd”;
b
yn is-adran (2)—
i
yn y geiriau o flaen paragraff (a), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”;
ii
ym mharagraff (a), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
iii
ym mharagraff (b), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” ac “y Cynulliad Cenedlaethol” rhodder “Senedd Cymru”;
iv
ym mharagraffau (c), (d) ac (e), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”;
c
yn is-adran (3)(b), yn lle “Cynulliad” rhodder “Senedd”.
6
Yn adran 43(2) a (3), yn lle “Cynulliad Cenedlaethol Cymru” a “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Senedd Cymru”.
7
Yn y Tabl yn Atodlen 1—
a
hepgorer y cofnodion ar gyfer—
Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales Commission)
Cynulliad Cenedlaethol Cymru (National Assembly for Wales)
Deddf Cynulliad (Assembly Act)
b
mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y lleoedd priodol yn nhrefn yr wyddor—
Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd)
mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
Comisiwn y Senedd (Senedd Commission)
ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru)
Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru)
ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom)
mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr
Senedd Cymru (Senedd Cymru)
ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru)
8
Yn lle “Deddf Cynulliad” a “Ddeddf Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos ar ôl i’r diwygiadau yn is-baragraffau (3) a (7) gael eu gwneud, rhodder “Deddf gan Senedd Cymru” neu “Ddeddf gan Senedd Cymru” yn ôl y digwydd, ac yn adran 37(2)(a), yn lle “Deddf dros dro gan y Cynulliad” rhodder “Deddf dros dro gan Senedd Cymru”.
9
Yn lle “Deddfau’r Cynulliad” a “Ddeddfau’r Cynulliad”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder “Deddfau Senedd Cymru” neu “Ddeddfau Senedd Cymru” yn ôl y digwydd.