Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

RHAN 6CYFFREDINOL

39Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys deddfiad sydd wedi ei gynnwys yn y Ddeddf hon).

40Rheoliadau o dan y Ddeddf hon

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol;

(c)yn cynnwys y pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, atodol, ganlyniadol, drosiannol, ddarfodol neu arbed.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron y Senedd ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.

(3)Mae is-adran (2) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys—

(a)rheoliadau o dan adran 15(1) (gwahoddiadau i gofrestru: darpariaeth bellach am bersonau o dan 16 oed) neu adran 39 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a throsiannol etc.) sy’n diwygio, diddymu neu’n addasu darpariaeth mewn—

(i)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(ii)Mesur a basiwyd o dan Ran 3 o Ddeddf 2006, neu

(iii)Deddf a basiwyd o dan Ran 4 o Ddeddf 2006;

(b)rheoliadau o dan adran 26(1).

(4)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon nad yw is-adran (2) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan y Senedd.

41Dehongliad cyffredinol

Yn y Ddeddf hon—

42Dod i rym

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1 (adran 1);

(b)yn Rhan 3—

(i)adran 10, ond mae’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 10(4);

(ii)adran 11, ond mae‘r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 11(2);

(iii)adran 27, ond mae is-adrannau (2)(d), (3) a (4) o’r adran honno yn cael effaith yn unol ag adran 27(5);

(c)Rhan 4 (adrannau 29 i 35 ac Atodlen 3), ond mae iddi effaith yn unig at ddibenion etholiad y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny;

(d)yn Rhan 5, adrannau 37 a 38;

(e)y Rhan hon (adrannau 39 i 43).

(2)Mae Rhan 2 (adrannau 2 i 9 ac Atodlen 1) yn dod i rym ar 6 Mai 2020.

(3)Yn Rhan 3—

(a)mae adrannau 12 i 26 yn dod i rym ar 1 Mehefin 2020;

(b)mae adran 28 ac Atodlen 2 yn dod i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.

(4)Caiff gorchymyn o dan is-adran (3)(b) gynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.

(5)Yn Rhan 5, mae adran 36 yn dod i rym ar ddiwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.

43Enw byr

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.