(1)Yn adran 3 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(b), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
(2)Yn adran 4 o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
(3)Yn adran 5 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol eithriadol), yn is-adran (4)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
Yn Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (Comisiwn y Cynulliad), ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (4) rhodder—
“(4)The Senedd Commission may—
(a)provide goods or services to the public, or
(b)make arrangements for the provision of goods or services to the public.
(4A)The Senedd Commission may charge for goods or services provided under sub-paragraph (4).”
(1)Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n—
(a)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n 16 neu’n 17 oed,
(b)estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol,
(c)caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o’r Senedd, a
(d)anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.
(2)Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael ei osod gerbron y Senedd.
(3)Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â diwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.