RHAN 5AMRYWIOL
36Amseriad cyfarfod cyntaf y Senedd ar ôl etholiad cyffredinol
1
Yn adran 3 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(b), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
2
Yn adran 4 o Ddeddf 2006 (pŵer i amrywio dyddiad etholiad cyffredinol arferol), yn is-adran (2)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
3
Yn adran 5 o Ddeddf 2006 (etholiadau cyffredinol eithriadol), yn is-adran (4)(c), yn lle “seven” rhodder “fourteen”.
37Pwerau Comisiwn y Senedd: darparu nwyddau a gwasanaethau
Yn Atodlen 2 i Ddeddf 2006 (Comisiwn y Cynulliad), ym mharagraff 4, yn lle is-baragraff (4) rhodder—
4
The Senedd Commission may—
a
provide goods or services to the public, or
b
make arrangements for the provision of goods or services to the public.
4A
The Senedd Commission may charge for goods or services provided under sub-paragraph (4).
38Adroddiad ar estyn yr hawl i bleidleisio a newid cymhwystra i fod yn Aelod o’r Senedd
1
Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod cyntaf ar ôl diwedd y cyfnod adrodd, lunio a chyhoeddi adroddiad ar weithrediad y darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n—
a
estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n 16 neu’n 17 oed,
b
estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd i bersonau sy’n ddinasyddion tramor cymhwysol,
c
caniatáu i ddinasyddion tramor cymhwysol fod yn Aelodau o’r Senedd, a
d
anghymhwyso aelodau o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol yng Nghymru rhag bod yn Aelodau o’r Senedd.
2
Rhaid i’r adroddiad a gyhoeddir o dan is-adran (1) gael ei osod gerbron y Senedd.
3
Yn is-adran (1), ystyr “cyfnod adrodd” yw’r cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â diwrnod etholiad cyntaf y Senedd pan gynhelir y bleidlais ar 5 Ebrill 2021 neu wedi hynny.