Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020

2020 dccc 1

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ailenwi Cynulliad Cenedlaethol Cymru, i estyn yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd, i ddiwygio’r gyfraith sy’n ymwneud ag anghymhwyso rhag bod yn Aelod o’r Senedd, i wneud darpariaeth ynghylch goruchwylio gwaith y Comisiwn Etholiadol, i wneud newidiadau amrywiol i’r gyfraith sy’n ymwneud â llywodraethu Cymru, ac at ddibenion cysylltiedig.

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn: