xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019

2019 dccc 4

Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru i hybu hygyrchedd cyfraith Cymru; i ddarparu ar gyfer dehongli a gweithredu deddfwriaeth Cymru; ac at ddibenion cysylltiedig.

[10 Medi 2019]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1LL+CHYGYRCHEDD CYFRAITH CYMRU

1Dyletswydd i gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiadLL+C

(1)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol gadw hygyrchedd cyfraith Cymru o dan adolygiad.

(2)Yn y Rhan hon, ystyr “hygyrchedd” cyfraith Cymru yw’r graddau y mae—

(a)ar gael yn hwylus i aelodau’r cyhoedd yn y Gymraeg a’r Saesneg;

(b)wedi ei chyhoeddi ar ei ffurf ddiweddaraf yn y ddwy iaith (sy’n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wneir iddynt);

(c)wedi ei threfnu’n glir ac yn rhesymegol (o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau);

(d)yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.

(3)Yn y Rhan hon, ystyr “cyfraith Cymru” yw—

(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38), i’r graddau y mae’n gymwys o ran Cymru;

(d)unrhyw ddeddfiad arall, neu unrhyw reol gyfreithiol arall, i’r graddau F2... y gellid darparu ar ei gyfer mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru].

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn a. 1(3)(d) wedi eu hepgor (23.1.2021) yn rhinwedd Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(5)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(a)

2Rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith CymruLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol lunio rhaglen sy’n nodi’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud i wella hygyrchedd cyfraith Cymru.

(2)Rhaid llunio rhaglen ar gyfer pob un o dymhorau [F4Senedd Cymru] sy’n dechrau ar ôl i’r adran hon ddod i rym.

(3)Rhaid i’r rhaglen gynnwys gweithgareddau arfaethedig y bwriedir iddynt—

(a)cyfrannu at broses barhaus o gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru;

(b)cynnal ffurf cyfraith Cymru (wedi iddi gael ei chodeiddio);

(c)hybu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gyfraith Cymru;

(d)hwyluso defnydd o’r Gymraeg.

(4)Caiff y rhaglen hefyd gynnwys gweithgareddau arfaethedig—

(a)y gellir eu cyflawni drwy gydweithio â Chomisiwn y Gyfraith (yn unol â Deddf Comisiynau’r Gyfraith 1965 (p. 22)), neu

(b)o unrhyw fath arall y mae Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen gerbron [F5Senedd Cymru] o fewn 6 mis i benodi Prif Weinidog ar ôl etholiad cyffredinol a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddiwygio’r rhaglen ar unrhyw adeg, ac os gwnânt hynny rhaid i’r Cwnsler Cyffredinol osod copi o’r rhaglen ddiwygiedig gerbron [F6Senedd Cymru].

(7)Rhaid [F7i Senedd Cymru] adrodd yn flynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar y cynnydd a wneir o dan y rhaglen.

(8)Yn is-adran (3), mae codeiddio cyfraith Cymru yn cynnwys—

(a)mabwysiadu strwythur ar gyfer cyfraith Cymru sy’n gwella ei hygyrchedd;

(b)trefnu a chyhoeddi cyfraith Cymru sydd wedi ei chydgrynhoi yn ôl y strwythur hwnnw.

Diwygiadau Testunol

F4Geiriau yn a. 2(2) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(a)

F5Geiriau yn a. 2(5) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

F6Geiriau yn a. 2(6) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

F7Geiriau yn a. 2(7) wedi eu hamnewid (6.5.2020) gan Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(2)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(a)

RHAN 2LL+CDEHONGLI A GWEITHREDU DEDDFWRIAETH CYMRU

Cymhwyso’r Rhan a’i heffaithLL+C

3Deddfwriaeth y mae’r Rhan hon yn gymwys iddiLL+C

(1)Mae’r Rhan hon yn gymwys i—

(a)y Ddeddf hon;

(b)[F1Deddfau Senedd Cymru] sy’n cael y Cydsyniad Brenhinol ar [F81 Ionawr 2020 neu ar ôl y diwrnod hwnnw];

(c)is-offerynnau Cymreig a wneir ar [F91 Ionawr 2020] neu ar ôl y diwrnod hwnnw.

(2)Ystyr “is-offeryn Cymreig” yw offeryn (pa un a yw’r offeryn hwnnw yn offeryn statudol ai peidio) nad yw ond yn cynnwys un neu ddau o’r canlynol—

(a)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad, pa un ai gan Weinidogion Cymru neu gan unrhyw berson arall;

(b)is-ddeddfwriaeth—

(i)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F10a gymathwyd],

(ii)nas gwneir ond gan Weinidogion Cymru neu unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig arall (o fewn yr ystyr a roddir i “devolved Welsh authority” gan adran 157A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)), a

(iii)nad yw ond yn gymwys o ran Cymru.

(3)Mae cyfeiriadau yng ngweddill y Rhan hon at [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (oni ddarperir fel arall) yn gyfeiriadau at [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig y mae’r Rhan hon yn gymwys iddi neu iddo yn rhinwedd is-adran (1).

[F11(4)Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod ac a wneir ar ôl i adran 45 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (p. 22) ddod i rym, mae'r cyfeiriad yn is-adran (2)(b)(iii) at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.]

Diwygiadau Testunol

F11A. 3(4) wedi ei fewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(6)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I4A. 3 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

4Effaith darpariaethau’r Rhan honLL+C

(1)Pan fo’r Rhan hon yn gymwys i [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae’r darpariaethau yn y Rhan hon yn cael effaith mewn perthynas â’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw, ac eithrio i’r graddau—

(a)y mae darpariaeth ddatganedig yn cael ei gwneud i’r gwrthwyneb, neu

(b)y mae’r cyd-destun yn mynnu fel arall.

(2)Nid yw’r eithriad yn is-adran (1) yn gymwys i adran 5 (statws cyfartal testunau deddfwriaeth ddwyieithog).

(3)Nid yw paragraff (b) o’r eithriad hwnnw yn gymwys i—

(a)adran 10 (cyfeiriadau at amser o’r dydd);

(b)adran 28 (cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r Goron);

(c)adran 33 (nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoes).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 4 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I6A. 4 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth ddwyieithog CymruLL+C

5Statws cyfartal y testunau Cymraeg a SaesnegLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] yn cael ei deddfu, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

(2)Mae i’r testun Cymraeg a’r testun Saesneg statws cyfartal at bob diben.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 5 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I8A. 5 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Ystyr geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn neddfwriaeth CymruLL+C

6Diffiniadau o eiriau ac ymadroddionLL+C

(1)Mae geiriau ac ymadroddion a restrir yn y Tabl yn Atodlen 1 i’w dehongli yn unol â’r Tabl hwnnw pan fônt yn ymddangos mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio Atodlen 1 er mwyn—

(a)mewnosod diffiniadau newydd o eiriau neu ymadroddion;

(b)dileu diffiniadau o eiriau neu ymadroddion;

(c)diwygio diffiniadau o eiriau neu ymadroddion.

(3)Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed, a gaiff gynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn diddymu, yn dirymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 6(1) mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I10A. 6(2)(3) mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(b)

I11A. 6(1) mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

7Mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog ac fel arallLL+C

Mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—

(a)mae geiriau yn y ffurf unigol yn cynnwys y ffurf luosog;

(b)mae geiriau yn y ffurf luosog yn cynnwys y ffurf unigol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I12A. 7 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I13A. 7 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

8Nid yw geiriau sy’n dynodi rhywedd yn gyfyngedig i’r rhywedd hwnnwLL+C

Mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, nid yw geiriau sy’n dynodi personau o rywedd penodol i’w darllen fel pe baent yn gyfyngedig i bersonau o’r rhywedd hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I14A. 8 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I15A. 8 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

9Amrywio geiriau ac ymadroddion oherwydd gramadeg etc.LL+C

Pan fo deddfiad yn rhoi ystyr i air neu ymadrodd mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae rhannau ymadrodd eraill a ffurfiau neu oleddfiadau gramadegol ar y gair neu’r ymadrodd i’w dehongli yn unol â’r ystyr hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I16A. 9 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I17A. 9 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

10Cyfeiriadau at amser o’r dyddLL+C

Mae cyfeiriad at amser o’r dydd mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at amser safonol Greenwich; ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 3 o Ddeddf Amser Haf 1972 (p. 6) (pwyntiau o amser yn ystod amser haf).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I18A. 10 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I19A. 10 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

11Cyfeiriadau at y SofrenLL+C

Mae cyfeiriad at y Sofren mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i’w ddarllen fel cyfeiriad at y Sofren ar y pryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I20A. 11 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I21A. 11 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

12Mesur pellterLL+C

Mae cyfeiriad at bellter mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn gyfeiriad at y pellter hwnnw wedi ei fesur mewn llinell syth ar blân llorweddol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I22A. 12 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I23A. 12 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

13Cyflwyno dogfennau drwy’r post neu’n electronigLL+C

(1)Pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen drwy’r post i berson arall (“B”), mae A yn cyflwyno’r ddogfen os yw A yn cyfeirio’n briodol lythyr sy’n cynnwys y ddogfen, yn talu ymlaen llaw am ei bostio, ac yn ei bostio at B.

(2)Pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn awdurdodi person (“A”) neu’n ei gwneud yn ofynnol i A gyflwyno dogfen i berson arall (“B”) yn electronig, mae A yn cyflwyno’r ddogfen—

(a)os yw A yn cyfeirio’n briodol gyfathrebiad electronig sy’n ffurfio’r ddogfen neu’n cynnwys y ddogfen, neu y mae’r ddogfen ynghlwm wrtho, ac yn ei anfon at B, a

(b)os yw’r ddogfen yn cael ei hanfon ar ffurf electronig y gall B ei chyrchu a’i chadw.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys pa un a yw’r Ddeddf F12... neu’r [F13offeryn] yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu unrhyw ymadrodd arall (megis “anfon” neu “rhoi”) i gyfeirio at gyflwyno’r ddogfen.

Diwygiadau Testunol

F12Gair yn a. 13(3) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(a)

Gwybodaeth Cychwyn

I24A. 13 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I25A. 13 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

14Y diwrnod pan fernir bod dogfen wedi ei chyflwynoLL+C

Pan fo dogfen yn cael ei chyflwyno drwy’r post neu’n electronig o dan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, bernir bod y ddogfen wedi ei chyflwyno, oni phrofir i’r gwrthwyneb—

(a)yn achos dogfen a gyflwynir drwy’r post, ar y diwrnod y byddai’r llythyr sy’n cynnwys y ddogfen yn cyrraedd yn nhrefn arferol y post;

(b)yn achos dogfen a gyflwynir yn electronig, ar y diwrnod yr anfonir y cyfathrebiad electronig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I26A. 14 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I27A. 14 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Pwerau a dyletswyddauLL+C

15Parhad pwerau a dyletswyddauLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ar fwy nag un achlysur.

(2)Mae dyletswydd a osodir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn ddyletswydd barhaus a rhaid ei chyflawni yn ôl y gofyn.

(3)Pan roddir pŵer gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig i ddeiliad swydd neu pan osodir dyletswydd ar ddeiliad swydd gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, mae i’w arfer neu i’w harfer gan ddeiliad y swydd ar y pryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I28A. 15 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I29A. 15 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

16Arfer pŵer neu ddyletswydd nad yw mewn grymLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo pŵer neu ddyletswydd yn cael ei roi neu ei gosod—

(a)gan ddarpariaeth mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] a ddaw i rym—

(i)ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau, a

(ii)mwy nag un diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol, neu

(b)gan ddarpariaeth mewn is-offeryn Cymreig na ddaw i rym unwaith y caiff yr offeryn ei wneud.

(2)Caniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd (a chaiff unrhyw offeryn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd ddod i rym) yn ystod y cyfnod—

(a)sy’n dechrau pan gaiff y Ddeddf F14... y Cydsyniad Brenhinol neu pan wneir yr [F15offeryn], a

(b)sy’n gorffen pan ddaw’r ddarpariaeth sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd i rym.

(3)Ond yn ystod y cyfnod hwnnw ni chaniateir arfer y pŵer neu’r ddyletswydd ond i’r graddau y mae’n angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn—

(a)i’r Ddeddf F16... neu i’r [F17offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd, neu

(b)i ddarpariaeth yn y Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw,

ar yr adeg neu ar ôl yr adeg y daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym.

(4)Pan fo darpariaeth mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig nad yw mewn grym⁠—

(a)yn gysylltiedig â phŵer neu ddyletswydd, neu’n atodol i bŵer neu ddyletswydd, a arferir yn unol â’r adran hon, a

(b)yn dod i rym ac eithrio drwy orchymyn neu reoliadau,

mae’r ddarpariaeth honno i’w thrin fel pe bai mewn grym i’r graddau y mae’n angenrheidiol i arfer y pŵer neu’r ddyletswydd yn unol â’r adran hon.

(5)Mae arfer pŵer neu ddyletswydd yn unol â’r adran hon yn ddarostyngedig i unrhyw amodau neu gyfyngiadau a osodir gan y Ddeddf F18... neu’r [F19offeryn] sy’n rhoi’r pŵer neu’n gosod y ddyletswydd (pa un a yw’r ddarpariaeth sy’n gosod yr amod neu’r cyfyngiad mewn grym ai peidio).

Diwygiadau Testunol

F14Gair yn a. 16(2)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F16Gair yn a. 16(3)(a) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

F18Gair yn a. 16(5) wedi ei hepgor (6.5.2020) yn rhinwedd Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 (anaw 1), a. 42(2), Atod. 1 para. 5(3)(a)(4)(b)

Gwybodaeth Cychwyn

I30A. 16 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I31A. 16 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

17Cynnwys darpariaethau machlud a darpariaethau adolygu mewn is-ddeddfwriaethLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir neu a osodir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] fel bod yr is-ddeddfwriaeth yn cynnwys darpariaeth adolygu neu ddarpariaeth fachlud (neu’r ddwy).

(2)Yn yr adran hon—

(a)ystyr “darpariaeth adolygu” yw darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person a wnaeth yr is-ddeddfwriaeth adolygu effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth honno, neu effeithiolrwydd unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, o fewn cyfnod penodedig neu ar ddiwedd cyfnod penodedig;

(b)ystyr “darpariaeth fachlud” yw darpariaeth i’r is-ddeddfwriaeth, neu unrhyw is-offeryn Cymreig y mae’n ei ddiwygio, beidio â chael effaith ar ddiwedd diwrnod penodedig neu gyfnod penodedig;

(c)ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu yn yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Caiff darpariaeth adolygu, ymhlith pethau eraill, wneud adolygiad yn ofynnol i ystyried a yw amcanion yr is-ddeddfwriaeth y mae’n gymwys iddi yn dal i fod yn briodol ac, os felly, a ellid eu cyflawni mewn ffordd arall.

(4)Caiff yr is-ddeddfwriaeth sy’n cynnwys y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud ddarparu i’r ddarpariaeth fod yn gymwys yn gyffredinol neu’n unig mewn perthynas â darpariaethau penodedig yr is-ddeddfwriaeth neu achosion neu amgylchiadau penodedig.

(5)Caniateir arfer y pŵer i wneud y ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud i wneud darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â’r ddarpariaeth adolygu neu’r ddarpariaeth fachlud.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I32A. 17 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I33A. 17 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

18Dirymu, diwygio ac ailddeddfu is-ddeddfwriaethLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth a roddir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] i ddiwygio, dirymu neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth a osodir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) y caniateir ei arfer i ddiwygio, dirymu a disodli, neu ailddeddfu unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan y ddyletswydd (neu o dan y pŵer a ddarperir gan yr is-adran hon).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I34A. 18 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I35A. 18 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

19Diwygio is-ddeddfwriaeth gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] LL+C

Nid yw diwygio na dirymu is-ddeddfwriaeth gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y pŵer neu’r ddyletswydd y gwnaed yr is-ddeddfwriaeth odano neu odani.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I36A. 19 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I37A. 19 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

20Amrywio cyfarwyddydau a’u tynnu’n ôlLL+C

(1)Caniateir arfer pŵer a roddir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig i roi cyfarwyddydau i amrywio unrhyw gyfarwyddydau neu dynnu’n ôl unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y pŵer.

(2)Mae dyletswydd i roi cyfarwyddydau a osodir gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu gan is-offeryn Cymreig yn cynnwys pŵer (sy’n arferadwy yn yr un ffordd ac yn ddarostyngedig i’r un amodau neu gyfyngiadau â’r ddyletswydd) i amrywio, neu dynnu’n ôl a disodli, unrhyw gyfarwyddydau a roddir o dan y ddyletswydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I38A. 20 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I39A. 20 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cyfeiriadau yn neddfwriaeth Cymru at ddeddfwriaeth a dogfennau eraillLL+C

21Cyfeiriadau at raniadau o ddeddfiadau, offerynnau a dogfennauLL+C

(1)Pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig—

(a)yn disgrifio rhaniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen neu’n cyfeirio at raniad o unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen, a

(b)yn gwneud hynny drwy gyfeirio at eiriau, adrannau neu rannau eraill y mae’r rhaniad yn ymestyn oddi wrthynt neu atynt (neu oddi wrthynt ac atynt),

mae’r rhaniad yn cynnwys y geiriau, yr adrannau neu’r rhannau eraill y cyfeirir atynt.

(2)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I40A. 21 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I41A. 21 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

22Argraffiadau o [F1Ddeddfau Senedd Cymru] neu o Fesurau’r Cynulliad y cyfeirir atyntLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] (gan gynnwys [F3Deddf gan Senedd Cymru] nad yw’r Rhan hon yn gymwys iddi) neu Fesur Cynulliad.

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y copi ardystiedig o’r Ddeddf, neu’r Mesur fel y’i cymeradwywyd, a gyhoeddir—

(a)gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I42A. 22 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I43A. 22 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

23Argraffiadau o Ddeddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig y cyfeirir atyntLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (pa un yn ôl ei henw byr ynteu yn ôl blwyddyn, statud, sesiwn neu bennod).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at y Ddeddf fel y’i deddfwyd a gyhoeddir—

(a) gan Argraffydd y Frenhines, neu

(b)o dan oruchwyliaeth neu awdurdod Llyfrfa Ei Mawrhydi.

(3)Ond—

(a)pan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys mewn argraffiad diwygiedig o’r statudau a argreffir drwy awdurdod, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw;

(b)pan na fo paragraff (a) yn gymwys a phan fo’r cyfeiriad yn gyfeiriad at Ddeddf sydd wedi ei chynnwys yn yr argraffiad a luniwyd o dan gyfarwyddyd y Comisiwn Cofnodion, mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at yr argraffiad hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I44A. 23 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I45A. 23 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

24Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth uniongyrchol UE a ddargedwir mewn cyfraith ddomestig ar ôl ymadael â’r UELL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)[F3Deddf gan Senedd Cymru] yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl y [F20diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu], a

(b)y Ddeddf neu’r offeryn yn cyfeirio at unrhyw reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE sy’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig yn rhinwedd adran 3 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) [F21neu adran 1 o Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2)] (cynnwys deddfwriaeth uniongyrchol UE).

(2)Mae’r cyfeiriad yn gyfeiriad at reoliad gan yr UE, penderfyniad gan yr UE, deddfwriaeth drydyddol gan yr UE neu ddarpariaeth yng nghytundeb yr AEE fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith ddomestig (ac nid fel y mae’n ffurfio rhan o gyfraith yr UE).

[F22(2A)Ond mae hyn yn ddarostyngedig i adran 25A (cyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu).]

(3)Yn yr adran hon, mae i’r ymadroddion Cymraeg a ganlyn yr un ystyron ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018—

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I46A. 24 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I47A. 24 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

25Mae cyfeiriadau at ddeddfiadau yn gyfeiriadau at ddeddfiadau fel y’u diwygiwydLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at ddeddfiad (“A”), a

(b)pan fo A yn cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan ddeddfiad (”B”) ar unrhyw adeg (pa un ai cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf F23... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F24offeryn] ei wneud).

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Nid oes dim yn adrannau 22 i 24 yn cyfyngu ar weithrediad yr adran hon.

(4)Yn is-adran (1), mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sy’n un o’r canlynol neu sydd wedi ei gynnwys mewn un o’r canlynol—

(a)Deddf gan Senedd yr Alban;

(b)deddfwriaeth Gogledd Iwerddon (o fewn yr ystyr a roddir i “Northern Ireland legislation” gan adran 24(5) o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30));

(c)offeryn a wneir o dan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I48A. 25 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I49A. 25 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

[F2525ACyfeiriadau at gyfraith berthnasol y cytundebau gwahanuLL+C

—(1) Mae'r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo Deddf gan Senedd Cymru yn cael y Cydsyniad Brenhinol, neu pan fo is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud, ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, a

(b)pan fo'r Ddeddf neu'r offeryn yn cyfeirio at unrhyw gytuniad sy'n ymwneud â'r UE, neu unrhyw offeryn neu ddogfen arall gan unrhyw endid o'r UE, sy'n cael effaith yn rhinwedd adran 7A neu 7B o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweithredu gweddill y cytundeb ymadael â'r UE etc. yn gyffredinol).

(2)Mae'r cyfeiriad, i'r graddau y mae'n ofynnol at ddibenion cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu, yn gyfeiriad at y cytuniad, yr offeryn neu'r ddogfen fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd yr adran honno (gan gynnwys, i'r graddau y mae'n ofynnol, fel y mae'n cael effaith o bryd i'w gilydd).

(3)Yn yr adran hon—

mae i “cyfraith berthnasol y cytundebau gwahanu” yr ystyr a roddir i “relevant separation agreement law” gan adran 7C(3) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018; mae “cytuniad” (“treaty”) yn cynnwys unrhyw gytundeb rhyngwladol (ac unrhyw brotocol neu atodiad i gytuniad neu gytundeb rhyngwladol); mae i “endid o'r UE” yr ystyr a roddir i “EU entity” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.]

26Cyfeiriadau at [F26offerynnau penodol gan yr UE] LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn cyfeirio at offeryn UE (“A”), a

(b)pan fo A wedi cael ei ddiwygio, ei estyn neu ei gymhwyso gan offeryn arall gan yr UE (“B”) cyn y diwrnod y caiff y Ddeddf F27... y Cydsyniad Brenhinol neu y caiff yr [F28offeryn] ei wneud.

(2)Mae’r cyfeiriad at A yn gyfeiriad at A fel y’i diwygiwyd, y’i hestynnwyd neu y’i cymhwyswyd gan B.

(3)Gweler hefyd [F29baragraff 2A o Atodlen 8 i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)] F30....

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I50A. 26 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I51A. 26 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Dyblygu troseddauLL+C

27Troseddau dyblygLL+C

(1)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (“A”) a hefyd yn drosedd—

(a)o dan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A,

(b)yn ôl y gyfraith gyffredin, neu

(c)o dan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig ac eithrio A ac yn ôl y gyfraith gyffredin,

mae person yn agored i’w erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall neu unrhyw un o’r Deddfau neu’r offerynnau hynny neu yn ôl y gyfraith gyffredin, ond ni ellir ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys os yw’r weithred neu’r anweithred hefyd yn drosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth y mae adran 18 o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) yn gymwys iddi (ond mae’r adran honno yn gwneud darpariaeth gyfatebol mewn perthynas â gweithred neu anweithred o’r fath).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I52A. 27 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I53A. 27 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Cymhwyso i’r GoronLL+C

28Cymhwyso deddfwriaeth Cymru i’r GoronLL+C

(1)Mae [F3Deddf gan Senedd Cymru] yn rhwymo’r Goron.

(2)Mae is-offeryn Cymreig yn rhwymo’r Goron i’r graddau y mae wedi ei wneud o dan ddeddfiad sy’n rhwymo’r Goron neu’n rhoi pŵer i wneud darpariaeth sy’n rhwymo’r Goron.

(3)Nid yw [F3Deddf gan Senedd Cymru] nac is-offeryn Cymreig yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I54A. 28 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I55A. 28 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Deddfwriaeth yn dod i rymLL+C

29Yr amser pan ddaw deddfwriaeth Cymru i rymLL+C

Pan fo—

(a)[F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, neu

(b)darpariaeth mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig,

yn dod i rym ar ddiwrnod y darperir ar ei gyfer mewn deddfiad, daw’r Ddeddf, yr offeryn neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod hwnnw.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I56A. 29 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I57A. 29 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

30Y diwrnod y daw [F3Deddf gan Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan na fo darpariaeth mewn deddfiad bod [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu ddarpariaeth mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] yn dod i rym, daw’r Ddeddf neu’r ddarpariaeth i rym ar ddechrau’r diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I58A. 30 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I59A. 30 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

31Gorchmynion a rheoliadau sy’n dwyn [F1Deddfau Senedd Cymru] i rymLL+C

Pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] yn darparu i orchymyn neu reoliadau benodi—

(a)y diwrnod y daw’r Ddeddf i rym, neu

(b)y diwrnod y daw darpariaeth yn y Ddeddf i rym,

caiff y gorchymyn neu’r rheoliadau benodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I60A. 31 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I61A. 31 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

Diwygio, diddymu a dirymu deddfwriaethLL+C

32Diwygiadau a wneir i ddeddfwriaeth Cymru neu gan ddeddfwriaeth CymruLL+C

(1)Pan fo deddfiad yn diwygio [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r Ddeddf honno neu’r offeryn hwnnw.

(2)Pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diwygio deddfiad drwy fewnosod neu amnewid geiriau neu ddeunydd arall, mae’r geiriau neu’r deunydd yn cael effaith fel rhan o’r deddfiad hwnnw.

(3)Gweler hefyd adran 23ZA o Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30) ar gyfer darpariaeth ynghylch cymhwyso’r Ddeddf honno i ddeddfwriaeth uniongyrchol [F31a gymathwyd] sy’n cael ei diwygio gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig (neu gan ddeddfwriaeth benodol arall).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I62A. 32 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I63A. 32 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

33Nid yw diddymiadau na dirymiadau yn adfer cyfraith a ddiddymwyd, a ddirymwyd neu a ddilëwyd eisoesLL+C

Pan fo—

(a)[F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad (“A”), a

(b)A eisoes wedi diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad arall (“B”) neu wedi dileu unrhyw rheol gyfreithiol arall (“C”),

nid yw diddymiad neu ddirymiad A yn adfer B neu C.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I64A. 33 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I65A. 33 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

34Arbedion cyffredinol mewn cysylltiad â diddymiadau a dirymiadauLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig yn diddymu neu’n dirymu deddfiad.

(2)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad—

(a)yn adfer unrhyw beth nad yw mewn grym neu mewn bod ar yr adeg pan yw’r diddymiad neu’r dirymiad yn cymryd effaith;

(b)yn effeithio ar weithrediad blaenorol y deddfiad neu unrhyw beth a wneir neu a oddefir o dan y deddfiad.

(3)Nid yw’r diddymiad neu’r dirymiad ychwaith yn effeithio ar—

(a)unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth neu atebolrwydd a geir, a gronnir neu yr eir iddi neu iddo o dan y deddfiad;

(b)unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth a osodir mewn cysylltiad ag unrhyw drosedd a gyflawnir o dan y deddfiad;

(c)unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi mewn cysylltiad ag unrhyw hawl, braint, rhwymedigaeth, atebolrwydd, cosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath,

a chaniateir cychwyn, parhau neu orfodi unrhyw ymchwiliad, achos cyfreithiol neu rwymedi o’r fath, a gosod unrhyw gosb, fforffediad neu gosbedigaeth o’r fath, fel pe na bai’r diddymiad neu’r dirymiad wedi digwydd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I66A. 34 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I67A. 34 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

35Effaith ailddeddfuLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo deddfiad (“A”)—

(a)yn cael ei ddiddymu neu ei ddirymu gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig, a

(b)yn cael ei ailddeddfu (gydag addasiadau neu hebddynt) gan ddeddfiad (“B”) sy’n [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu’n is-offeryn Cymreig neu’n ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

(2)Mae cyfeiriad at A mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen i’w ddarllen fel (neu fel pe bai’n cynnwys) cyfeiriad at B.

(3)I’r graddau y gallasai unrhyw is-ddeddfwriaeth a wneir o dan A neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan A gael ei gwneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei gwneud o dan B.

(4)I’r graddau y gallasai unrhyw beth a wneir neu sy’n cael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan A gael ei wneud o dan B, mae i gael effaith fel pe bai wedi ei wneud o dan B.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I68A. 35 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I69A. 35 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

36Cyfeirio at [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl ei henw byr ar ôl iddi gael ei diddymuLL+C

Caniateir parhau i gyfeirio at [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] yn ôl yr enw byr a roddir iddi gan ddeddfiad er i’r deddfiad hwnnw gael ei ddiddymu.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I70A. 36 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I71A. 36 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

37Ystyr diddymu a dirymu yn y Rhan honLL+C

(1)Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at ddiddymu neu ddirymu deddfiad neu ddileu rheol gyfreithiol yn cynnwys—

(a)amnewid unrhyw beth am y deddfiad neu’r rheol (neu unrhyw ran ohono neu ohoni);

(b)cyfyngu ar gymhwysiad neu effaith y deddfiad neu’r rheol;

(c)darparu i’r deddfiad neu’r rheol beidio â chael effaith.

(2)At ddibenion adrannau 34 i 36 (ond nid adran 33)—

(a)pan ddaw [F3Deddf dros dro gan Senedd Cymru] i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r Ddeddf wedi ei diddymu gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig;

(b)pan ddaw is-offeryn Cymreig dros dro i ben, mae hyn i’w drin fel pe bai’r offeryn wedi ei ddirymu gan [F3Ddeddf gan Senedd Cymru] neu is-offeryn Cymreig.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I72A. 37 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I73A. 37 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

RHAN 3LL+CAMRYWIOL

38Pŵer i ddisodli disgrifiadau o ddyddiadau ac amseroedd yn neddfwriaeth CymruLL+C

(1)Pan fo darpariaeth mewn unrhyw ddeddfwriaeth y mae’r adran hon yn gymwys iddi yn disgrifio dyddiad neu amser drwy gyfeirio at ddyfodiad deddfiad i rym neu unrhyw ddigwyddiad arall, caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r ddarpariaeth drwy reoliadau fel ei bod yn cyfeirio at y gwir ddyddiad neu amser (unwaith y bydd yn hysbys).

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) hefyd—

(a)diwygio’r ddeddfwriaeth er mwyn cynnwys esboniad o’r dyddiad neu’r amser y maent yn ei fewnosod;

(b)gwneud diwygiad canlyniadol sy’n diwygio, yn diddymu, neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad.

(3)Mae’r adran hon yn gymwys i’r ddeddfwriaeth a ganlyn (pryd bynnag y’i deddfir neu i’i gwneir)—

(a)[F1Deddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(b)is-ddeddfwriaeth a wneir o dan [F1Ddeddfau Senedd Cymru] a Mesurau’r Cynulliad;

(c)unrhyw is-ddeddfwriaeth arall a wneir gan Weinidogion Cymru neu Gynulliad Cenedlaethol Cymru a sefydlwyd gan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38) nad yw ond yn gymwys o ran Cymru;

(d)unrhyw ddeddfiad arall, i’r graddau y caiff ei ddiwygio gan ddeddfwriaeth a grybwyllir ym mharagraff (a), (b) neu (c).

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I74A. 38 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

39Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurfiau gwahanolLL+C

(1)Pan fo gan Weinidogion Cymru bŵer neu ddyletswydd i wneud is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir drwy offeryn statudol, cânt arfer y pŵer neu’r ddyletswydd drwy wneud yr is-ddeddfwriaeth ar unrhyw un o’r ffurfiau eraill hynny drwy offeryn statudol.

(2)Nid yw hyn yn effeithio ar y weithdrefn ar gyfer gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys yr is-ddeddfwriaeth.

(3)Mae cyfeiriad mewn unrhyw ddeddfiad, offeryn neu ddogfen at reoliadau, rheolau neu orchymyn a wneir o dan y pŵer neu’r ddyletswydd yn cynnwys is-ddeddfwriaeth a wneir odano neu odani mewn unrhyw ffurf arall drwy ddibynnu ar is-adran (1).

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F32a gymathwyd], a

(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I75A. 39 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

40Cyfuno is-ddeddfwriaeth sy’n ddarostyngedig i weithdrefnau gwahanol yn y [F33Senedd] LL+C

(1)Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud, neu’n bwriadu gwneud, offeryn statudol a fyddai fel arall yn ddarostyngedig i ddwy neu ragor o weithdrefnau gwahanol yn y [F34Senedd] o ganlyniad i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys, mae pa un bynnag o’r gweithdrefnau hynny yn y [F34Senedd] a grybwyllir gyntaf yn is-adran (2) yn gymwys i’r offeryn (ac nid yw’r un o’r gweithdrefnau eraill yn y [F34Senedd] yn gymwys).

(2)Yn yr adran hon, ystyr “gweithdrefn yn y [F35Senedd]” yw gweithdrefn sy’n cael yr effaith⁠—

(a)na chaniateir gwneud offeryn statudol (neu’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys) oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F36Senedd Cymru] a’i gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad,

(b)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F37Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud a rhaid iddo gael ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan [F37Senedd Cymru] er mwyn i’r is-ddeddfwriaeth y mae’n ei chynnwys ddod i rym neu barhau mewn grym,

(c)bod offeryn statudol yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F38Senedd Cymru],

(d)bod rhaid gosod offeryn statudol gerbron [F39Senedd Cymru] ar ôl iddo gael ei wneud, neu

(e)nad yw’n ofynnol i offeryn statudol gael ei osod gerbron [F40Senedd Cymru] ar unrhyw adeg.

(3)Nid yw’r ffaith bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud is-ddeddfwriaeth mewn offeryn statudol y mae is-adran (1) yn gymwys iddo yn—

(a)eu hatal rhag gwneud is-ddeddfwriaeth bellach mewn offeryn statudol nad yw’r is-adran honno yn gymwys iddo, na

(b)effeithio ar y weithdrefn yn y [F41Senedd] sy’n gymwys i offeryn o’r fath.

(4)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw is-ddeddfwriaeth—

(a)a wneir gan Weinidogion Cymru o dan Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig neu ddeddfwriaeth uniongyrchol [F42a gymathwyd], a

(b)sy’n gymwys ac eithrio o ran Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I76A. 40 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(d)

[F4340ACymhwyso'r Rhan hon mewn perthynas â pharth CymruLL+C

Mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â physgota, pysgodfeydd neu iechyd pysgod, mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at Gymru yn cynnwys yr ardal o barth Cymru sydd y tu hwnt i derfynau atfor y môr tiriogaethol.”]

Diwygiadau Testunol

F43A. 40A wedi ei fewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(7)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

RHAN 4LL+CCYFFREDINOL

41Diwygiadau canlyniadol a diddymiadauLL+C

Mae Atodlen 2 yn cynnwys diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.

Gwybodaeth Cychwyn

I77A. 41 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

42Pŵer i wneud darpariaeth ychwanegol i roi effaith lawn i’r Ddeddf honLL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddiben rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, diddymu, dirymu neu addasu fel arall unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth yn y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I78A. 42 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

43Rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf honLL+C

(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—

(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol;

(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.

(2)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un neu ragor o’r canlynol gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron [F44Senedd Cymru] ac wedi ei gymeradwyo ganddo drwy benderfyniad—

(a)rheoliadau o dan adran 6(2);

(b)rheoliadau o dan adran 42(1) sy’n diwygio, yn diddymu neu’n addasu fel arall unrhyw ddarpariaeth mewn [F3Deddf gan Senedd Cymru] neu Fesur Cynulliad neu mewn Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.

(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau a wneir o dan is-adran 42(1) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan [F45Senedd Cymru].

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I79A. 43 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

44Y Ddeddf hon yn dod i rymLL+C

(1)Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol—

(a)Rhan 1;

(b)adran 6(2) a (3);

(c)y darpariaethau eraill yn Rhan 2, i’r graddau y maent yn gymwys i’r Ddeddf hon;

(d)Rhan 3;

(e)y Rhan hon.

(2)I’r graddau nad yw wedi cael ei dwyn i rym gan is-adran (1), daw Rhan 2 i rym ar ddiwrnod a benodir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

(3)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—

(a)rhaid ei wneud drwy offeryn statudol;

(b)caiff gynnwys ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.

Gwybodaeth Cychwyn

I80A. 44 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

45Enw byrLL+C

Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.

Gwybodaeth Cychwyn

I81A. 45 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

(A gyflwynir gan adran 6)

ATODLEN 1LL+CDIFFINIADAU O EIRIAU AC YMADRODDION

Gwybodaeth Cychwyn

I82Atod. 1 mewn grym ar 11.9.2019 at ddibenion penodedig, gweler a. 44(1)(c)

I83Atod. 1 mewn grym ar 1.1.2020 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2019/1333, ergl. 2

TABL

[F46Aelod o’r Senedd (Member of the Senedd) mae “Aelod o’r Senedd” i’w ddehongli yn unol ag adran 1(2A) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)]
Aelod-wladwriaeth (member State)ystyr “Aelod-wladwriaeth” yw Gwladwriaeth sy’n aelod o’r Undeb Ewropeaidd
Arglwydd Ganghellor (Lord Chancellor)ystyr “Arglwydd Ganghellor” yw Arglwydd Uchel Ganghellor Prydain Fawr
Awdurdod Cyllid Cymru (Welsh Revenue Authority)ystyr “Awdurdod Cyllid Cymru” yw’r awdurdod a sefydlwyd gan adran 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6)
Banc Lloegr (Bank of England)

ystyr “Banc Lloegr”, yn unol â gofynion y cyd-destun, yw—

(a)

Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr, neu

(b)

banc Llywodraethwr a Chwmni Banc Lloegr

blwyddyn ariannol (financial year)ystyr “blwyddyn ariannol” yw blwyddyn sy’n gorffen â 31 Mawrth
Bwrdd Iechyd Lleol (Local Health Board)ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 (p. 42)
F47. . .F47. . .
[F48Cod Dedfrydu (Sentencing Code) ystyr “Cod Dedfrydu” yw’r cod sydd wedi ei gynnwys yn Neddf Dedfrydu 2020 (p. 17) (gweler adran 1 o’r Ddeddf honno)
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (Equality and Human Rights Commission)ystyr “Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol” yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Cydraddoldeb 2006 (p. 3)]
Comisiwn Elusennau (Charity Commission)ystyr “Comisiwn Elusennau” yw Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr, a barheir gan adran 13 o Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25)
[F46Comisiwn y Senedd (Senedd Commission) ystyr “Comisiwn y Senedd” yw’r Comisiwn a sefydlwyd gan adran 27 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gomisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru)]
Cwnsler Cyffredinol (Counsel General)ystyr “Cwnsler Cyffredinol” yw Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, a benodir o dan adran 49 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)
Cyfoeth Naturiol Cymru (Natural Resources Wales)ystyr “Cyfoeth Naturiol Cymru” yw Corff Adnoddau Naturiol Cymru, a sefydlwyd gan erthygl 3 o Orchymyn Corff Adnoddau Naturiol Cymru (Sefydlu) 2012 (O.S. 2012/1903 (Cy. 230))
[F49cyfraith a gymathwyd (assimilated law)] [F49mae i “cyfraith a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated law” gan adran 6(7) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 6 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
y Cyfrin Gyngor (the Privy Council)ystyr “y Cyfrin Gyngor” yw’r Arglwyddi ac eraill o Dra Anrhydeddus Gyfrin Gyngor Ei Mawrhydi
Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (Her Majesty’s Revenue and Customs)mae i “Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ” yr ystyr a roddir gan adran 4 o Ddeddf y Comisiynwyr Cyllid a Thollau 2005 (p. 11) (a gweler adrannau 3(5) ac 11(4) o Ddeddf Ffiniau, Dinasyddiaeth a Mewnfudo 2009 (p. 11), sy’n darparu i gyfeiriadau at Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi gynnwys swyddogion penodol sydd wedi eu dynodi o dan y Ddeddf honno)
Cymru (Wales)

ystyr ”Cymru” yw—

(a)

ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70)), ynghyd â

(b)

y môr sy’n gyfagos i Gymru o fewn terfynau atfor y môr tiriogaethol,

ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672)

F47. . .F47. . .
cytundeb yr AEE (EEA agreement)ystyr “cytundeb yr AEE” yw’r cytundeb ar yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992, ynghyd â’r Protocol sy’n amrywio’r Cytundeb hwnnw a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993, fel y’i haddesir neu yr ychwanegir ato o bryd i’w gilydd; ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F50diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw deddfwriaeth uniongyrchol [F51a gymathwyd]
y Cytuniadau (the Treaties) neu Cytuniadau’r UE (the EU Treaties)

mae i “y Cytuniadau” neu “Cytuniadau’r UE”—

(a)

[F52mewn perthynas ag amser cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p. 68) fel y mae'n cael effaith yn rhinwedd adran 1A o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018;

(b)

mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, yr ystyr a roddir i “the Treaties” neu “the EU Treaties” gan Ddeddf y Cymuendau Ewropeaidd 1972 fel yr oedd ganddi effaith yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu, ac mae'n cyfeirio at y Cytuniadau neu Gytuniadau'r UE fel yr oeddent yn union cyn diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu]

datganiad statudol (statutory declaration)ystyr “datganiad statudol” yw datganiad a wneir yn rhinwedd Deddf Datganiadau Statudol 1835 (p. 62)
F47. . .F47. . .
[F46Deddf gan Senedd Cymru (Act of Senedd Cymru) ystyr “Deddf gan Senedd Cymru” yw Deddf a ddeddfir o dan Ran 4 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (pa un ai fel Deddf gan Senedd Cymru neu Ddeddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru)]
[F46Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig (Act of the Parliament of the United Kingdom) mae “Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig” yn cynnwys Deddf gan Senedd Prydain Fawr neu gan Senedd Lloegr]
deddfiad (enactment)

ystyr “deddfiad” yw unrhyw un o’r canlynol neu ddarpariaeth mewn unrhyw un o’r canlynol—

(a)

[F3Deddf gan Senedd Cymru],

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,

(d)

unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol [F51a gymathwyd], neu

(e)

unrhyw is-ddeddfwriaeth

[F53deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct legislation)] [F53mae i “deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 6 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
y Deyrnas Unedig (United Kingdom)ystyr “y Deyrnas Unedig” yw Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon
[F54diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu (implementation period completion day) mae i “diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu” yr ystyr sydd i “IP completion day” o fewn ystyr Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Y Cytundeb Ymadael) 2020 (p. 1), ac mae ymadroddion perthynol i'w dehongli yn unol â hynny (gweler adran 39(1) i (5) o'r Ddeddf honno)]
diwrnod gwaith (working day)ystyr “diwrnod gwaith” yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80)
diwrnod ymadael (exit day)mae “diwrnod ymadael” ac ymadroddion perthynol i’w dehongli yn unol ag “exit day” yn adran 20(1) i (5) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16)
Goruchaf Lys (Supreme Court)ystyr “Goruchaf Lys”yw Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig a sefydlwyd gan adran 23 o Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol 2005 (p. 4)
graddfa safonol (standard scale)mae i “graddfa safonol”, mewn perthynas â dirwy neu gosb am drosedd ddiannod, yr ystyr a roddir i “standard scale” [F55
(a)

yn achos trosedd y mae’r troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni ar neu ar ôl 1 Rhagfyr 2020, gan adran 122 o’r Cod Dedfrydu;

(b)

yn achos trosedd yr oedd y troseddwr wedi ei euogfarnu ohoni cyn y dyddiad hwnnw,]

gan adran 37 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982 (p. 48)
Gweinidog y Goron (Minister of the Crown)ystyr “Gweinidog y Goron” yw deiliad swydd yn Llywodraeth Ei Mawrhydi yn y Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys y Trysorlys
Gweinidogion Cymru (the Welsh Ministers)mae “Gweinidogion Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn gyfeiriadau at y Prif Weinidog a Gweinidogion Cymru a benodir o dan adran 48 o’r Ddeddf honno)
gwladwriaeth AEE (EEA state)

ystyr “gwladwriaeth AEE”, mewn perthynas ag unrhyw bryd, yw—

(a)

gwladwriaeth sydd ar y pryd yn Aelod-wladwriaeth, neu

(b)

unrhyw wladwriaeth arall sydd ar y pryd yn barti i gytundeb yr AEE

is-ddeddfwriaeth (subordinate legislation)

ystyr “is-ddeddfwriaeth” yw rheoliadau, gorchmynion, rheolau, Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor, cynlluniau, gwarantau, isddeddfau ac offerynnau eraill a wneir o dan—

(a)

[F3Deddf gan Senedd Cymru],

(b)

Mesur Cynulliad,

(c)

Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, neu

(d)

deddfwriaeth uniongyrchol [F51a gymathwyd]

Lloegr (England)mae i “Lloegr” yr ystyr a roddir i “England” gan Atodlen 1 i Ddeddf Dehongli 1978 (p. 30)
llw (oath), affidafid (affidavit), a tyngu llw (swear)mae “llw” ac “affidafid” yn cynnwys cadarnhad a datganiad; ac mae “tyngu llw” yn cynnwys cadarnhau a datgan
Llys Apêl (Court of Appeal)ystyr “Llys Apêl” yw Llys Apêl Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
Llys Ewropeaidd (European Court)ystyr “Llys Ewropeaidd” yw Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd
Llys y Goron (Crown Court)ystyr “Llys y Goron” yw Llys y Goron yng Nghymru a Lloegr a sefydlwyd yn wreiddiol gan adran 4 o Ddeddf y Llysoedd 1971 (p. 23) (a ddiddymwyd gan Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
Llys Gwarchod (Court of Protection)ystyr “Llys Gwarchod” yw’r Llys Gwarchod a sefydlwyd gan adran 45 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (p. 9)
llys sirol (county court)ystyr “llys sirol” yw’r llys sirol yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran A1 o Ddeddf Llysoedd Sirol 1984 (p. 28)
llys teulu (family court)ystyr “llys teulu” yw’r llys teulu yng Nghymru a Lloegr, a sefydlwyd gan adran 31A o Ddeddf Achosion Priodasol a Theuluol 1984 (p. 42)
llys ynadon (magistrates’ court)ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), yng Nghymru a Lloegr
Llywodraeth Cymru (Welsh Government)mae “Llywodraeth Cymru” i’w ddehongli yn unol ag adran 45(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)

[F56mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct minor legislation)

prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd (assimilated direct principal legislation)]

[F56mae i “mân ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct minor legislation” ac mae i “prif ddeddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd” yr ystyr a roddir i “assimilated direct principal legislation” gan adran 20(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (p. 16) (gweler hefyd baragraff 7 o Atodlen 1 i Ddeddf Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) 2020 (p. 2) ac adran 6 o Ddeddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023)]
Mesur Cynulliad (Assembly Measure)ystyr “Mesur Cynulliad” yw Mesur gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a ddeddfwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a beidiodd â chael effaith yn rhinwedd adran 106 o’r Ddeddf honno, yn ddarostyngedig i’r arbediad a barheir gan baragraff 5 o Atodlen 7 i Ddeddf Cymru 2017 (p. 4))
mis (month)ystyr “mis” yw mis calendr
offeryn UE (EU instrument)ystyr “offeryn UE” yw unrhyw offeryn a ddyroddir gan sefydliad UE, ond mewn perthynas ag amser ar neu ar ôl [F57diwrnod cwblhau'r cyfnod gweithredu] nid yw’n cynnwys unrhyw ddeddfwriaeth uniongyrchol [F51a gymathwyd]
[F58parth Cymru (Welsh zone) mae i “parth Cymru” yr ystyr a roddir i “Welsh zone” gan adran 158 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler erthygl 3 o Orchymyn Parth Cymru (Ffiniau a Throsglwyddo Swyddogaethau) 2010 (O.S. 2010/760), sy'n gwneud darpariaeth ynghylch terfynau'r parth)”.]
person (person)mae “person” yn cynnwys corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig
Prif Weinidog (First Minister)ystyr “Prif Weinidog” yw Prif Weinidog Cymru a benodir o dan adran 46(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (a gweler adran 45(2) o’r Ddeddf honno, sy’n darparu bod cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog)
[F48Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (Public Accounts Committee) ystyr “Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus” yw pwyllgor Senedd Cymru a sefydlwyd yn unol ag adran 30 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac y cyfeirir ato yn yr adran honno fel y “Pwyllgor Archwilio”)]
rheolau llys (rules of court)ystyr “rheolau llys”, mewn perthynas ag unrhyw lys, yw rheolau a wneir gan yr awdurdod a chanddo’r pŵer i wneud rheolau neu orchmynion sy’n rheoleiddio arferion a threfniadaeth y llys hwnnw
[F59rhwymedigaeth a gymathwyd (assimilated obligation)]

[F59ystyr “rhwymedigaeth a gymathwyd” yw rhwymedigaeth—

(a)

a grëwyd neu a gododd gan neu o dan Gytuniadau UE cyn diwrnod cwblhau’r cyfnod gweithredu, a

(b)

sy’n ffurfio rhan o’r gyfraith a gymathwyd,

fel y’i haddesir o bryd i’w gilydd]

sefydliad UE (EU institution)ystyr “sefydliad UE” yw unrhyw un o sefydliadau’r Undeb Ewropeaidd
[F46Senedd Cymru (Senedd Cymru) ystyr “Senedd Cymru” yw’r senedd ar gyfer Cymru a sefydlwyd gan adran 1 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32) (ac a enwyd yn wreiddiol yn Gynulliad Cenedlaethol Cymru)]
tir (land)mae “tir” yn cynnwys adeiladau a strwythurau eraill, tir a orchuddir â dŵr, ac unrhyw ystad, buddiant, hawddfraint, gwasanaethfraint, hawl mewn tir neu hawl dros dir
tribiwnlys Cymreig (Welsh tribunal)mae i “tribiwnlys Cymreig” yr ystyr a roddir i “Welsh tribunal” gan adran 59(1) o Ddeddf Cymru 2017 (p. 4)
trosedd ddiannod (summary offence)

ystyr “trosedd ddiannod” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, na ellir ei rhoi ar brawf ond yn ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd a drinnir fel pe bai y gellir ei rhoi ar brawf yn ddiannod yn unig yn rhinwedd adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43), a

(b)

gan anwybyddu adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) (sy’n darparu ar gyfer achosion pryd y caniateir cynnwys cownt sy’n cyhuddo person o drosedd ddiannod mewn ditiad)

trosedd dditiadwy (indictable offence)

ystyr “trosedd dditiadwy” yw—

(a)

trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn unig, neu

(b)

trosedd neillffordd

trosedd neillffordd (offence triable either way)

ystyr “trosedd neillffordd” yw trosedd, os y’i cyflawnir gan oedolyn, y gellir ei rhoi ar brawf naill ai ar dditiad neu’n ddiannod—

(a)

heb gynnwys trosedd y gellir ei rhoi ar brawf ar dditiad yn rhinwedd adran 40 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1988 (p. 33) yn unig, a

(b)

gan anwybyddu adran 22 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) (sy’n ei gwneud yn ofynnol bod troseddau neillffordd penodol i’w rhoi ar brawf yn ddiannod os yw’r gwerth sydd ynghlwm yn fach)

y Trysorlys (the Treasury)ystyr “y Trysorlys” yw Comisiynwyr Trysorlys Ei Mawrhydi
Uchel Lys (High Court)ystyr “Uchel Lys”yw Uchel Lys Barn Ei Mawrhydi yng Nghymru a Lloegr
yr UE (the EU) neu yr Undeb Ewropeaidd (the European Union)ystyr “yr UE” neu “yr Undeb Ewropeaidd” yw’r Undeb a sefydlwyd gan y Cytuniad ar Undeb Ewropeaidd a lofnodwyd yn Maastricht ar 7 Chwefror 1992, fel y’i diwygiwyd gan unrhyw Gytuniad diweddarach; ac mae’n cynnwys, i’r graddau y mae’r cyd-destun yn ei chaniatáu neu’n ei gwneud yn ofynnol, Cymuned Ynni Atomig Ewrop
Uwchlysoedd (Senior Courts)ystyr “Uwchlysoedd” yw Uwchlysoedd Cymru a Lloegr (gweler adran 1 o Ddeddf Uwchlysoedd 1981 (p. 54))
[F48Ymddiriedolaeth Genedlaethol (National Trust) ystyr “Ymddiriedolaeth Genedlaethol” yw’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol dros Fannau o Ddiddordeb Hanesyddol neu Harddwch Naturiol a gorfforwyd gan Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol 1907 (p. cxxxvi)]
ysgrifennu (writing)mae “ysgrifennu” yn cynnwys teipio, argraffu, lithograffi, ffotograffiaeth a dulliau eraill o gynrychioli neu atgynhyrchu geiriau ar ffurf weladwy
Ysgrifennydd Gwladol (Secretary of State)ystyr “Ysgrifennydd Gwladol”yw un o Brif Ysgrifenyddion Gwladol Ei Mawrhydi

Diwygiadau Testunol

F58Geiriau yn NhablAtod. 1 wedi eu mewnosod (23.1.2021) gan Fisheries Act 2020 (c. 22), aau. 46(8)(b), 54(2) (ynghyd ag Atod. 4 para. 31)

(A gyflwynir gan adran 41)

ATODLEN 2LL+CDIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

Deddf Dehongli 1978 (p. 30)LL+C

1Yn lle adran 23B o Ddeddf Dehongli 1978 (cymhwyso’r Ddeddf at Fesurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Deddfau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru etc.) rhodder—

23BApplication of this Act to Welsh legislation

(1)The provisions of this Act, except sections 1 to 3, apply to the following as they apply to an Act—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)an Act of the National Assembly for Wales, other than the Legislation (Wales) Act 2019, which receives Royal Assent before the day on which Part 2 of that Act (interpretation and operation of Welsh legislation) comes fully into force.

(2)The provisions of this Act apply to an instrument—

(a)made under a Measure or Act of the National Assembly for Wales, and

(b)made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

as they apply to other subordinate legislation.

(3)The provisions of this Act apply to an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority, only if—

(a)the instrument is made before the day on which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 comes fully into force,

(b)the instrument is made (at any time) with any other person who is not a devolved Welsh authority, or

(c)the instrument contains any provision that applies otherwise than in relation to Wales.

(4)Nothing in subsection (2) or (3) limits the operation of sections 12 to 14A in relation to a power or duty to make an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies, but section 11 does not apply in relation to such an instrument.

(5)In the application of this Act to a Measure or Act of the National Assembly for Wales, references to the passing of an Act or an enactment are to be read as references to the enactment of the Measure or Act.

(6)In this section, “devolved Welsh authority” and “Wales” have the same meanings as in the Government of Wales Act 2006 (see sections 157A and 158 of that Act).

23CInterpretation of this Act in relation to Welsh legislation

(1)In this Act, references to an enactment include an enactment comprised in—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales,

(b)an Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

(c)an instrument made under such an Act or Measure (whenever the instrument is made), or

(d)an instrument made under an Act of Parliament or retained direct EU legislation, and made by the Welsh Ministers or any other devolved Welsh authority (whenever the instrument is made, and whether or not it is made with any other person),

but the reference in section 16(2) to a temporary enactment does not include an enactment comprised in legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (see section 3(1) of that Act).

(2)In section 17(2)(b), the reference to subordinate legislation includes an instrument to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies.

(3)In section 18, the reference to an act or omission which constitutes an offence under two or more Acts includes an act or omission which constitutes an offence under—

(a)any legislation to which that section applies, and

(b)any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies,

and the reference to “those Acts” is to be read accordingly.

(4)In section 19(1), references to “another Act” include—

(a)a Measure of the National Assembly for Wales, and

(b)any Act of the National Assembly for Wales (whenever the Act receives Royal Assent),

and the reference in paragraph (c) to “Acts” is to be read accordingly.

Gwybodaeth Cychwyn

I84Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32)LL+C

2(1)Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 156 (testunau Cymraeg a Saesneg deddfwriaeth)—

(a)ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

(1A)Subsection (1) does not apply to any legislation to which Part 2 of the Legislation (Wales) Act 2019 applies (but section 5 of that Act makes corresponding provision in relation to legislation to which that Part applies).;

(b)hepgorer is-adrannau (2) i (5).

(3)Yn Atodlen 7B, ym mharagraff 7(2)(e), hepgorer is-baragraff (ii).

(4)Yn Atodlen 10, hepgorer paragraff 11.

Gwybodaeth Cychwyn

I85Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)

Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 (mccc 8)LL+C

3(1)Mae Mesur Gwastraff (Cymru) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19, hepgorer is-adrannau (3) a (4).

(3)Yn adran 20, hepgorer is-adrannau (4) a (5).

Gwybodaeth Cychwyn

I86Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 11.9.2019, gweler a. 44(1)(e)